Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- 56 Ceisiadau i'r Comisiynydd
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys i gais o dan adran 54 neu 55 yn gofyn i'r Comisiynydd
- ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon neu gydymffurfio â hi mewn
- modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.
- (2) Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig.
- (3) Rhaid i'r cais gael ei wneud ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Comisiynydd (os yw'n ei
- gwneud yn ofynnol iddo gael ei wneud ar ffurf benodol).
- (4) Rhaid i'r cais nodi'r rhesymau pam y mae P o'r farn bod y gofyniad i gydymffurfio â'r
- safon, neu i gydymffurfio â'r safon yn y modd penodol, yn afresymol neu'n
- anghymesur.
- 57 Dyfarnu ar gais
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys—
- (a) i unrhyw gais o dan adran 54, a
- (b) i unrhyw gais o dan adran 55 nad yw'r Comisiynydd yn gwrthod ei dderbyn.
- (2) Mater i P yw dangos bod y gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio
- â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.
- (3) Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu ar y cais cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cais
- gael ei wneud.
- (4) Wrth ddyfarnu ar y cais—
- (a) rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â P, a
- (b) caiff y Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw berson arall a chanddo fuddiant
- yng nghanlyniad y cais ym marn y Comisiynydd.
- (5) Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P o'r dyfarniad ar y cais.
- (6) Os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod y gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon, neu
- gydymffurfio â'r safon yn y modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur, rhaid
- iddo wneud un o'r canlynol—
- (a) dirymu'r hysbysiad cydymffurfio;
- (b) dirymu'r hysbysiad cydymffurfio a rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd;
- (c) amrywio'r hysbysiad cydymffurfio presennol.
- (7) Os bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd neu'n amrywio'r
- hysbysiad cydymffurfio presennol—
- (a) nid yw adran 45(3) yn gymwys, a
- (b) nid yw adrannau 46(3) a 47 yn gymwys i'r graddau y mae'r Comisiynydd a P
- yn cytuno ar yr hysbysiad newydd, neu ar yr amrywiad i'r hysbysiad
- cydymffurfio presennol.
- 58 Yr hawl i apelio
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn hysbysu P o dan adran 57 o
- ddyfarniad nad yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â'r
- safon mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.