Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (3) Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—
- (a) â phob person perthnasol,
- (b) â'r Panel Cynghori, ac
- (c) â'r cyhoedd, ac eithrio—
- (i) os yw'n ystyried, neu
- (ii) i'r graddau y mae'n ystyried
- ei bod yn amhriodol gwneud hynny.
- (4) Nid yw methiant person i gymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn atal y
- Comisiynydd rhag cynnal yr ymchwiliad safonau.
- (5) Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—
- (a) yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person
- hwnnw;
- (b) yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grˆwp o bersonau, yw
- personau—
- (i) yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a
- (ii) y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.
- Adroddiadau safonau
- 64 Adroddiad safonau
- (1) Ar ôl cynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad safonau.
- (2) Dogfen sy'n nodi'r canlynol yw adroddiad safonau—
- (a) casgliadau'r ymchwiliad safonau, a
- (b) rhesymau'r Comisiynydd dros ddod i'r casgliadau hynny.
- (3) Os—
- (a) casgliadau'r ymchwiliad (boed yn llwyr neu'n rhannol) yw y dylai safonau fod
- yn benodol gymwys i P, a
- (b) nad yw unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r safonau hynny wedi ei phennu neu
- eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1),
- rhaid i'r adroddiad nodi'r safonau sydd heb eu pennu.
- (4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad safonau—
- (a) rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad—
- (i) at bob person perthnasol,
- (ii) at y Panel Cynghori,
- (iii) at bob person a gymerodd ran yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn
- unol ag adran 63, a
- (iv) at Weinidogion Cymru, a