Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- RHAN 5
- GORFODI SAFONAU
- PENNOD 1
- YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Â SAFONAU ETC
- Ymchwiliadau
- 71 Ymchwilio i fethiant i gydymffurfio â safonau etc
- (1) Caiff y Comisiynydd ymchwilio i a yw person (D) wedi methu â chydymffurfio â
- gofyniad perthnasol.
- (2) Yn y Rhan hon, ystyr “gofyniad perthnasol” yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
- (a) dyletswydd i gydymffurfio â safon a bennir gan Weinidogion Cymru (gweler
- adran 25);
- (b) gofyniad a gynhwysir mewn hysbysiad penderfynu yn rhinwedd adran 79
- (gofyniad i baratoi cynllun gweithredu, neu i gymryd camau);
- (c) cynllun gweithredu (gweler adrannau 79 a 80);
- (d) gofyniad a gynhwysir mewn hysbysiad penderfynu yn rhinwedd adran 82
- (rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio).
- (3) Os dyletswydd i gydymffurfio â safon yw'r gofyniad perthnasol, dim ond os yw'n
- amau bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol y caiff y
- Comisiynydd gynnal ymchwiliad o dan yr adran hon.
- (4) Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn ag ymchwiliadau.
- 72 Terfynu ymchwiliad
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran
- 71.
- (2) Caiff y Comisiynydd derfynu'r ymchwiliad ar unrhyw adeg.
- (3) Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd—
- (a) hysbysu pob person a chanddo fuddiant, a
- (b) hysbysu D o'r rhesymau dros ddod i'r penderfyniad.
- (4) Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol
- ar ôl dod i'r penderfyniad.
- Dyfarnu ar ymchwiliad
- 73 Dyfarnu ar ymchwiliad
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys—
- (a) os yw'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71, a
- (b) os nad yw'r Comisiynydd yn terfynu'r ymchwiliad.