Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/54

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (b) os yw D yn gwrthod ymrwymo mewn cytundeb setlo, caiff y Comisiynydd arfer ei bwerau o dan yr adran hon mewn modd gwahanol, ond nid oes angen iddo wneud hynny.
  • (6) Os yw'r Comisiynydd yn gweithredu o dan is-adran (3), nid yw is-adrannau (2) a (3) yn atal y Comisiynydd rhag gwneud hefyd y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol—
  • (a) rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;
  • (b) rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall.
  • (7) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
  • Dim camau gorfodi gosodedig
  • 78 Dim camau gorfodi gosodedig
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—
  • (a) yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, ond
  • (b) yn penderfynu—
  • (i) peidio â gweithredu ymhellach, neu
  • (ii) gweithredu o dan adran 77(4).
  • (2) Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi rhesymau'r Comisiynydd dros benderfynu—
  • (a) peidio â gweithredu ymhellach, neu
  • (b) gweithredu o dan adran 77(4) ac nid o dan adran 77(3).
  • (3) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
  • (4) Yn yr adran hon, ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad y mae
  • adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.
  • Atal methiant D i gydymffurfio rhag parhau neu gael ei ailadrodd
  • 79 Gofyniad i baratoi cynllun gweithredu neu i gymryd camau
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—
  • (a) yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, a
  • (b) yn penderfynu ei gwneud yn ofynnol i D wneud un o'r pethau a ganlyn neu'r ddau ohonynt—
  • (i) paratoi cynllun gweithredu at y diben o atal methiant D i gydymffurfio
  • â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;
  • (ii) cymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad
  • perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd.
  • (2) Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan yr hyn y mae'r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud.
  • (3) Os yw'r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu, rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol bennu o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid i D—