Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (b) am yr hawl i apelio o dan adran 95.
- (4) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
- (5) Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad
- penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.
- Cosbau sifil
- 83 Cosbau sifil
- (1) Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r materion a nodir yn is-adran (2) pan fydd yn penderfynu—
- (a) ai i roi cosb sifil i unrhyw berson ai peidio, a
- (b) ynghylch swm unrhyw gosb sifil.
- (2) Y canlynol yw'r materion hynny—
- (a) pa mor ddifrifol yw'r mater y mae'r gosb sifil i'w rhoi mewn cysylltiad ag ef;
- (b) amgylchiadau'r person y mae'r gosb sifil i'w rhoi iddo;
- (c) yr angen am atal parhau neu ailadrodd y mater y mae'r gosb sifil i'w rhoi mewn cysylltiad ag ef.
- (3) Nid yw is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag rhoi sylw i faterion eraill.
- (4) Rhaid i gosb sifil beidio â bod yn fwy na £5,000.
- (5) Mae cosb sifil yn adferadwy gan y Comisiynydd fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.
- (6) Rhaid i'r Comisiynydd dalu'r holl gosbau sifil sy'n dod i law i Gronfa Gyfunol Cymru.
- (7) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, roi swm gwahanol yn lle'r swm sydd wedi ei bennu o bryd i'w gilydd yn is-adran (4).
- (8) Yn yr adran hon ystyr “cosb sifil” yw unrhyw gosb sifil y caiff y Comisiynydd ei rhoi.
- 84 Rhoi cosb sifil
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—
- (a) yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, a
- (b) yn penderfynu rhoi cosb sifil i D.
- (2) Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan—
- (a) y gosb sifil y mae'r Comisiynydd wedi penderfynu ei rhoi;
- (b) sut y caniateir i'r gosb sifil gael ei thalu;
- (c) y cyfnod y mae'n rhaid talu'r gosb sifil cyn iddo ddod i ben (ac y mae'n rhaid iddo fod yn gyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau).
- (3) Rhaid i hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod hefyd i D—
- (a) beth fydd y canlyniadau os na fydd D yn talu'r gosb sifil; a