Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (b) os yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach, hysbysiad yn nodi'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gweithredu felly; ac
- (c) copïau drafft o'r hysbysiad penderfynu y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei roi.
- (3) Cyn setlo adroddiad yr ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd roi drafft o'r adroddiad arfaethedig i bob person a chanddo fuddiant.
- (4) Rhaid i'r Comisiynydd—
- (a) rhoi cyfle i D i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn isadrannau (2) a (3), a
- (b) rhoi cyfle i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant i wneud sylwadau
- ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adran (3).
- (5) Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw dyladwy i unrhyw sylwadau a wneir gan D neu gan
- unrhyw berson arall a chanddo fuddiant o dan is-adran (4).
- (6) Y Comisiynydd sydd i bennu'r cyfnod a ganiateir i berson ar gyfer gwneud sylwadau yn unol ag is-adran (4); ond rhaid i'r cyfnod beidio â bod yn llai na 28 o ddiwrnodau. Yr adeg y bydd camau gorfodi yn dod yn effeithiol
- 87 Yr adeg y bydd camau gorfodi yn dod yn effeithiol
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D yn nodi camau gorfodi y mae'r Comisiynydd wedi penderfynu eu cymryd mewn perthynas â dyfarniad o dan adran 73.
- (2) Rhaid i D—
- (a) paratoi cynllun gweithredu neu gymryd camau, neu
- (b) rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio, os yw'r hysbysiad penderfynu'n ei gwneud yn ofynnol i D wneud hynny, yn unol ag adran 79 neu 82.
- (3) Rhaid i D dalu cosb sifil a nodir yn yr hysbysiad penderfynu yn unol ag adran 84.
- (4) Ond dim ond ar ôl i'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud apêl berthnasol ddod i ben y mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys.
- (5) Dim ond ar ôl i'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud apêl berthnasol ddod i ben y caiff y Comisiynydd roi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.
- (6) Os gwneir apêl berthnasol, nid yw is-adrannau (2), (3) a (5) yn gymwys—
- (a) oni fydd, a hyd oni fydd, yr apêl honno, ac unrhyw apêl bellach, wedi dod i ben yn derfynol, a
- (b) o ran apêl bellach—
- (i) oni na ellir, a hyd na ellir gwneud un, neu
- (ii) oni na ellir, a hyd na ellir gwneud un heb ganiatâd y Tribiwnlys neu
- ganiatâd llys.