Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/111

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.

DYFODIAD Y DEHEUWYR I WYNEDD, A'I GANLYNIADAU.

CYNWYSIAD:—

HARRIS YN NGWYNEDD Y TRO CYNTAF—EI DDYFODIAD I LANBRYNMAIR, BALA, A MACHYNLLETH—AIL DDYFODIAD HARRIS I'R GOGLEDD YN 1741—EI YMWELIAD A SIR GAERNARFON.

Yr oedd Harris a Rowlands wedi bod yn pregethu, bellach, er ys tair blynedd; ond nid oedd Rowlands wedi myned oddicartref, ac nid oedd Harris, hyd yn hyn, wedi anturio allan o Ddeheudir Cymru. Yr oedd llawer mwy o ymneillduwyr eisoes yn y rhan Ddeheuol o'r dywysogaeth, nag oedd yn Ngwynedd. Yr oedd o leiaf ddeg-ar-hugain o gapelau ganddynt yn y Deheubarth, pryd nad oedd ond chwech ganddynt yn y Gogledd. Yr oedd y naill ran, gan hyny, yn mhell o flaen y llall mewn cydnabyddiaeth a chynefindra ag ymneillduaeth yr oedd gerwinder y rhagfarn yn ei erbyn, i raddau wedi lliniaru yn y Deau; ond yn Ngwynedd, yr oedd yn ei lawn rym. Prin yr oedd bwlch eto wedi ei wneyd yn muriau yr hen gastell;—castell y llechai ofergoelion, anwybodaeth, a rhagfarn ynddo yn ddiwarafun. Pa bryd bynag y gwneid ymosodiad egniol ar yr hen gastell, gellid dysgwyl y byddai cryn gyffro, ac y dielid i'r eithaf ar y gwŷr eofn a feiddient wneuthur hyny.

Ar waith Lewis Rees yn cyfarfod â Howel Harris, gosododd o'i flaen ansawdd tywyll ac ofergoclus trigolion Gwynedd, nes creu ynddo benderfyniad i wneyd cais ar ddwyn yr efengyl i glyw rhai o'r preswylwyr, ac i roi gwaedd arnynt i ddeffroi, a dianc rhag y llid a fydd.

Hysbysir i ni gan Senex, sef John Evans, mai yn y fl. 1739 y bu hyn; ac â hyn y cydsaif dyddlyfr Howel Harris ei hun; ond nid aeth efe y tro hwn ddim pellach na'r Bala; ac mai yn y fl. 1741 yr aeth efe gyntaf i sir Gaernarfon.

Pan oedd yn pregethu mewn rhyw fan yn agos i'r Cemaes, sir Drefaldwyn, daeth marchog y sir, offeiriad y plwyf, dau ustus heddwch, a'r dyheddwr (constable) gyda hwynt, i'w gymeryd i fyny, a llawer o'r werinos i derfysgu. Ond wedi ei ddwrdio a'i fygwth, gollyngasant ef yn rhydd; yntau a aeth yn mlaen tua sir Feirionydd. Pan gyrhaeddodd i Lanuwchlyn, gan lawned oedd ei fynwes o ysbryd y gwaith, nid oedodd ddim heb wneuthur dyben ei ddyfodiad yn hysbys i'r pentref a'r gymydogaeth. Daeth rhyw nifer ynghyd, ac yntau a draethodd ei neges iddynt oddiar ben clawdd, wrth y tŷ y disgynasai efe ynddo. Dyma y bregeth gyntaf a bregethwyd gan neb o'r Methodistiaid yn sir Feirionydd. Cafodd rhyw nifer bychan eu galw dan y bregeth hon, i fod fel ysgub gwhwfan gwlad Penllyn. O Lanuwchlyn, fe aeth i'r Bala; safodd wrth dalcen yr Hall; a chafodd lonyddwch i bregethu yno. Dyma y bregeth gyntaf a bregethwyd gan Fethodist yn y Bala.

Hysbysir i ni fod yn y dref hon, y pryd hyny, ddiadell fechan yn arfer ymgynull at eu gilydd ar y Sabbothau, fore a phrydnawn, i ddarllen Ꭹ Beibl, gweddio, a chanu mawl. "Mae dau beth," ebe John Evans am danynt, "yn cadarnhau fy meddwl eu bod o Dduw, sef, Yn gyntaf, Eu symlrwydd