Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/113

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymdeithas grefyddol fechan, a pharhausant yn ffyddlon a defnyddiol dros eu hoes; a gadawsant yr un achos yn etifeddiaeth i'w plant, y rhai a fuant yn ymgeledd neillduol iddo hyd eu marwolaeth. Cawn alw sylw eto at yr achos yn Llanbrynmair, yn y DOSBARTH nesaf o'r gwaith hwn.

Nid ydym yn cael fod H. Harris wedi myned ddim pellach i'r Gogledd y tro hwn na thref y Bala. Ar ei ddychweliad, pregethodd yn Ninas Mowddwy, ac ar ddymuniad cyfaill, aeth rhagddo i dref Machynlleth. "Ond ar fy nyfodiad cyntaf i'r dref," meddai ef ei hun, "mi a ddeallais nad oedd gan neb ewyllys i'm derbyn. Pa fodd bynag, mi a gynygiais y pregethwn ar yr heol i'r neb a ewyllysiai fy ngwrando. Yna, wedi fy ngosod i sefyll ar ryw ffenestr neu ddrws agored, mewn rhyw adeilad uwchlaw y bobl, myfi a ddechreuais lefaru. Ond gorfu i mi roddi heibio yn fuan, gan swn y dyrfa, yn bloeddio, bygwth, tyngu a rhegu, a chan y cerig, neu unrhyw beth arall cyntaf i law, a luchient ataf. Ac yn enwedig, daeth ataf gyfreithiwr, â'r fath ddigder a chynddaredd yn ei wedd, a'r fath iaith uffernol yn ei enau, a phe bae ei enw yn lleng. Yr oedd gydag ef foneddwr ac offeiriad, o'r un dymher ac iaith, yn flaenoriaid ar y werin. Gollyngodd un o honynt ergyd o lawddryll ataf, ond ni chefais niwed; ond gorfu arnaf fyned i ganol y werin i'r heol, heb ddysgwyl y diangwn byth yn fyw o'u plith, gan fod pob ymddygiad o'r eiddynt yn fy mygwth â marwolaeth. Ond ni ddaethai fy awr i eto; ac er i mi gael triniaeth arw ganddynt, mi a gefais fy ngwared yn rhyfedd o'u dwylaw. O'r diwedd, un o'r terfysgwyr a dueddwyd i geisio fy ngheffyl; a chan gynted yr esgynais ar ei gefn, gwnaent sylw o'r ffordd a gymerwn, a daethant drachefn i'm cyfarfod, gan ddechreu fy lluchio eilwaith â choed ac â cherig, nes i'r Arglwydd fy ngwared allan o'u dwylaw."

Nid oes genym hanes am Mr. Harris yn y Gogledd ar ol hyn hyd ddechre y fl. 1741. Y tro hwn y bu yr ymosodiad arswydus hwnw arno yn y Bala, ag a'i dygodd o fewn ychydig i angau. "Dyma'r tro," meddai John Evans, "y cafodd yr anmharch mwyaf yn ei holl fywyd, er ei fod yn fynych mewn anmharch ac enbydrwydd mawr. Yr oedd yma (Bala) amryw, yn y wlad a'r dref, wedi cael gradd o sobrwydd meddwl wrth ei wrando o'r blaen; a hwy a ddaethant at eu gilydd, i dŷ gwraig weddw oedd yn byw tua chanol y dref, gan ddysgwyl cael ei wrando y tro hwn. Yn y cyfamser, yr oedd byddin luosog o wrthwynebwyr yn cael ei pharotoi. Yr oedd person y plwyf wedi anfon i annog y plwyfolion i ddyfod i'r Bala i amddiffyn yr eglwys. Felly nifer luosog o honynt, â'r person o'u blaen fel arweinydd, a ddaethant i mewn i'r dref. Yna y person, fel pen y gâd, a lefodd yn groch am i bawb ag oedd yn caru yr eglwys ddyfod allan i'w hamddiffyn. Ar hyn, cododd llawer o drigolion y dref i chwanegu y fyddin. Y person, wedi hyn, a arweiniodd y llu, yn gyntaf, at dŷ tafarn; rhoddwyd baril o gwrw ar y gareg—farch, i bawb yfed a fynai, i'w cymhwyso at yr ymosod. Ar ol yfed yn dra helaeth, ymddyosgodd amryw o honynt at eu crysau; a daethant fel hyn, a'u pastynau yn eu dwylaw, a gwedd arswydus arnynt, at y tŷ lle yr oedd y bobl wedi ymgynull i wrando y gŵr yn pregethu. Dychymygwch,