Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fanau yn y sir hòno. Cyn gadael Harris ar hyn o bryd, gwrandawn beth a ddywed yr hen Williams o Bant—y—celyn am dano:

Pan 'roedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywell farwol hun,
Heb na phresbyter na 'ffeiriad,
Nac un esgob ar ddihun;
Yn y cyfnos tywyll pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym iâs,
Yn llawn gwreichion goleu tanllyd,
O Drefeca fach i ma's.

Yn y daran 'roedd e'n aros,
Yn y cwmwl 'roedd ei le;
(Ysbryd briw, drylliedig, gwresog,
Sy'n cael cwnsel Brenin ne';)
Ac yn saethu oddiyno allan
Fellt ofnadwy iawn eu rhyw,
At y dorf aneirif, dywell,
Yn eu pechod oedd yn byw.

Gwerin fawr o blant pleserau
Y pryd hwnw gafodd flas,
Ag nad â tra fyddo anadl
O'u hysbrydoedd ddim i ma's.
'Roedd ei eiriau dwys, sylweddol,
Heb eu studio 'mla'nllaw'r un,
Wedi eu ffitto gan yr Ysbryd,
I gyflyrau pob rhyw ddyn.



PENNOD IV.

CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN MON.

CYNWYSIAD:

AGWEDD Y WLAD—MEIBION THOMAS PRITCHARD—WILLIAM PRITCHARD YN SYMUD O LEYN YNO—LEWIS REES A BENJAMIN THOMAS YNO—ROWLANDS YN YMWELED A'R YNYS—CYNGHORWYR CYNTAF Y WLAD—SION ROLANT A RISIART WILLIAM DAFYDD.

AR ddechre 1700, yr oedd gan ymneillduwyr achos bychan a gwanaidd yn mhob sir yn y Gogledd, ond sir Fôn. Yr oedd tri chapel ganddynt yn sir Ddinbych, sef dau yn Ngwrecsam, ac un yn nhref Dinbych: un yn Newmarket, yn swydd Fflint: un yn Llanfyllin, yn swydd Trefaldwyn: ac un yn Mhwllheli, yn swydd Gaernarfon. Yr oedd ychydig nifer o honynt hefyd yn ardaloedd y Bala a Llanbrynmair. Ond nid ydym yn cael fod gan neb o'r ymneillduwyr un achos eto yn Mon. Yr oedd y wlad hòno yn llwyr yn meddiant yr eglwys wladol, pe yn ei meddiant hefyd; o leiaf, yr oedd y maes yn glir iddi, ac nid oedd neb o'r sectariaid eto wedi aflonyddu ar ei heddwch. Yr oedd y wlad, gan hyny, wedi bod yn meddiant yr eglwys wladol er ys tua chant a hanner o flynyddoedd, er dyddiau y frenines Elizabeth; a gallesid dysgwyl y buasai ol ei llafur ar y rhan fwyaf o'r wlad mewn amser mor faith. Gan fod yma tua 75 o eglwysi neu dai addoliad, a degymau ddigon i gynal yn gysurus weinidog yn mhob un, a llawer yn ychwaneg yn gynorthwy iddynt; onid rhesymol ydyw dysgwyl fod y wlad hon, yn anad yr un arall, â gwedd hyfryd arni gan oleuni gwybodaeth ysgrythyrol, a chan