yn dysgu darllen yn gynt nag y gwnai pobl ieuainc yn yr ysgol. Ar hyn, haerid yn groch fod cyfrinach rhyngddynt â'r ysbryd drwg. Gosodid hefyd yn eu herbyn fai echryslawn arall, sef bod yn eu plith odineb ac ymlosgach rhy wrthun i'w henwi. Gelwid eu cyfarfodydd neillduol, yn y rhai yr ymgynullent i gyd-ymddyddan am bethau yr efengyl, ac i weddio, yn weddi dywyll. Yr oedd hyn yn cael ei daenu ar led y wlad, ac yn cael ei gredu yn ddilys gan lawer; ie, gyda digywilydd-dra cas fe edliwid hyn iddynt hwy eu hunain yn fynych. "Llawer (meddai John Evans) a droent eu bodiau yn eu talcenau i ymgroesi rhagddynt, fel y byddent arferol yno, pan y dygwyddai rhywbeth anghyffredin." Y prydyddion hefyd a ymroisant i ganu, ac i wneyd antarlutiau (interludes) i'w goganu a'u gwaradwyddo. Un Mr. Ellis, curad yn Nghaergybi, a ddyfal bregethai ac a ysgrifenai yn eu herbyn; ond fe gaed atebiad i druth y clerigwyr, gan William Bulkeley, Ysw., o'r Bryn-du. Fel hyn yr oedd y wlad yn terfysgu; ond llwyddo a wnaeth yr achos drwy y cwbl. Daeth diniweidrwydd y cyhuddedig yn raddol i'r golwg, ac absen ac enllib y cyhuddwyr hefyd, nes dymchwel y sarhad ar ben eu gwrthwynebwyr.
Tua dechre y fl. 1743 y cafwyd gan y Parch. L. Rees o Lanbrynmair ddyfod trosodd i Blas-Penmynydd; a phregethodd mewn hen felin yn agos yno, pryd yr oedd o bymtheg i ugain, yn ei wrando. Y gair a roes allan i ganu ar ddechre y cwrdd oedd y Salm,
"Dysgwyliaf o'r mynyddoedd draw
Lle daw i'm help 'gwyllysgar &c"
Dychymygodd yr erlidwyr fod ganddo fyddin arfog yn nghadw tua mynyddoedd sir Gaernarfon, parod i'w amddiffyn os byddai angenrheidrwydd, a chafodd lonyddwch i bregethu y tro hwn; ac yn hanes bywyd y gŵr da hwn, dywedir fod ei weddi ef ar y pryd wedi cynyrchu argraffiadau dwysion ar rai o'r terfysgwyr, fel nad oedd nerth yn eu dwylaw i godi yn ei erbyn, ie, ac i rai o honynt gael agor eu calonau i ddal ar y pethau a lefarid. Hon oedd y bregeth gyntaf gan ymneillduwr yn Mon. Ond er i Mr. Rees gael llonyddwch i bregethu yn y boreu, gwrthodwyd hyny iddo yn y prydnawn. Cafodd y dynion terfysglyd adgyfnerthiad yr oedfa ganlynol, trwy fod eu nifer wedi ei chwanegu; attaliwyd Mr. Rees i bregethu, a phrin y cafodd ddianc yn ddianaf.
Yn y flwyddyn ganlynol, sef Ebrill, 1744, y daeth un Benjamin Thomas, o'r Deheudir, i Blas Penmynydd, mewn bwriad o gael pregethu. Yr oedd William Pritchard, erbyn hyn, wedi cofrestru tŷ bychan, a elwid Minffordd, i bregethu ynddo, yn ol a ofynid gan y gyfraith. Yr oedd y tŷ hwn gerllaw y ffordd sydd yn arwain o'r Borth i Langefni. Wedi clywed fod pregethwr i'w ddysgwyl, ymgasglodd torf o erlidwyr â ffyn mawrion yn eu dwylaw, ac ar un o honynt ben o haiarn. A chyda bod y gŵr yn dechreu pregethu, taflodd un o honynt lestraid mawr o ddwfr am ei ben, yr hyn oedd megys amnaid iddynt oll ymosod ar y trueiniaid, a hyny a wnaethant â'u holl egni. Yr oedd y pregethwr yn ddyn cryf a bywiog; a diangodd o'u dwylaw, trwy