Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/131

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allai y Risiart William yma fod, nac i ba gyfundeb o bobl y perthynai; pa un ai un o'r gweinidogion ymneillduol perthynol i'r Annibynwyr neu'r Bedyddwyr, ai un o gynorthwywyr Harris a Rowlands ydoedd. Ond pa un bynag, nid yw yn ymddangos fod dim parhaol a chyson wedi cael ei wneuthur tuag at efengyleiddio gwlad Mon, cyn dyddiau William Pritchard.

Hysbysir i ni, gan y Parch. Peter Williams ei hun, yn yr hanes a ysgrifenodd am droion ei oes, ei fod ef wedi ymweled ag ynys Mon mewn amser boreu, sef tua'r fl. 1746—yr hon oedd y flwyddyn yr ymunodd â'r Methodistiaid. Wrth adrodd hanes ei daith i'r Gogledd y pryd hyny, drwy Lanidloes, Drefnewydd, Bala, a Lleyn yn sir Gaernarfon, fe ddywed, "Oddiyno (sef o Leyn) aethum i sir Fon, wedi cael hanes pregethwr o swydd Arfon, yr hwn a aethai i'r wlad hóno; ymholais, a chefais ei fod yn dywedyd yn erchyll am wŷr Mon, a'r cynlluniau ofnadwy oedd ganddynt yn erbyn pregethwyr teithiol, a'r rhai a fyddent yn eu canlyn. Ychydig yn ol, un pregethwr a safai allan, wrth y ffordd fawr, a'r bobl a ymgasglasant yn gynulleidfa derfysglyd, ond yn rhanedig: mynai rhai glywed pa beth oedd y cablwr yn ei ddywedyd, ond y lleill a fynent ei guro allan o'r wlad! Ar hyn, ymladdfa a fu, a gwaed a gollwyd, nes oedd y llwch yn cael ei yru o'i flaen, fel pe gwelsid cawod o wlaw yn disgyn o'r cymylau!

"Pa fodd bynag (ebe efe), anturiais bregethu ar hyd y bryniau, yma ac acw, lle bynag y gallwn gael pump neu chwech o wrandawyr yn gynulledig : ond y bobl a ddaethant o bob man, gan lefain y naill wrth y llall, 'Un o'r penau cryniaid a ddaeth i'n plith i bregethu!' Dechreuais lefaru can gynted ag y gallwn, ac ni arosais i lawer o honynt ymgasglu. Deallais, trwy hyfryd brofiad, os gallwn ennill clustiau y bobl, y cawn hefyd eu calonau, ac na fyddai yn hoff ganddynt erlid mwyach. Fel hyn daeth rhai o honynt, o radd i radd, yn lled fwynaidd, a daeth rhai o'r tlodion, ac o'r bobl o sefyllfa ganolig, i ofyn i mi ddyfod atynt i letya, a bod i mi groesaw o'r fath le ag oedd ganddynt hwy. Y'nghylch y pryd hwn, dygodd rhagluniaeth fi at gyfaill anwyl, yr hwn ydoedd ail fab i ŵr boneddig, ac a oleuwyd dan weinidogaeth Mr. Howel Harris. Ac yr oedd ef ei hun (y boneddwr, tebygid) yn foddlon; oherwydd efe a deithiodd gyda mi i lawer o fanau: nid oedd arno ddim ofn erlidigaethau; ond cariai y groes yn gysurus. Fe'm dygodd i sylw ei gyfeillion, y rhai nid adwaenwn, ac a ddaeth â mii leoedd y byddwn debycaf o gael gwrandawiad heddychol.

"Yr oeddym yn myned trwy dref (medd efe yn mhellach), yr hon o'r blaen oedd elyniaethol i'r efengyl, ond yn awr yn gymwynasgar, ac agos a dyfod allan o honi trwy ganol llawer o bobl anfoesgar; rhai yn dirmygu ac yn gwatwar, a rhai yn ceisio dychrynu ein ceffylau â chwd a cherig wedi eu rhwymo wrth ben polyn hir, gan ei ysgwyd yn dda; ond nid oedd ond ychydig neu ddim o luchio cerig. Ond y'mhen y dref, fe ddaeth rhyw grydd allan o'i weithdy, ac a gymerodd lonaid ei law o laid yr heol, ar dywydd gwlyb, ac a'i taflodd i fy ngwyneb, nes oedd fy nau lygad y'nghauad am enyd, heb allu gweled mwy na dyn dall; pa fodd bynag, crafais ef ymaith