Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/137

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydd a enwyd, sef Lewis Evan, y mae genym ychwaneg o hanes; ond cyn traethu yr hanes hyny, gosodaf o flaen y darllenydd hyny o gofnodau sydd ar gael am gymdeithasfa a gynaliwyd yn Tyddyn, neu Tyfyn fel y'i gelwir yn yr ysgrif, gerllaw Llanidloes, Awst 22, 1745.

YN BRESENOL

Parch Daniel Rowlands Cymedrolwyr
Parch William Williams

Mr Howel Harris, Arolygydd Cyffredinol

Benjamin Thomas, Cymorthwydd

William Richard Arolygwyr
James Williams
Richard Tibbot

Cynghorwyr.

William Evans
Lewis Evans
John Williams
Evan Jenkins
Benjamin Cadman
Morgan Evan,
Benjamin Rowland,
Thomas Meredith
David Jehu,
Thomas Jones,
Evan Dafydd,
Andrew Whitaker,
Reinallt Cleaton.

Cytunwyd, Fod Evan Dafydd i fyned yn mlaen fel cynt, ac Andrew Whitaker yr un modd.

Wedi dadleu llawer a'r brawd Benjamin Cadman, gan nad ydyw yn benderfynol ei feddwl, pa un a wna ai dal ei undeb gyda ni, ai cilio at yr ymneillduwyr, cytunwyd ar iddo roi heibio gynghori, hyd ein cymdeithasfa chwarterol nesaf, a bod i'r brawd Richard Tibbot ddwyn ei syniadau ef, a syniadau'r eglwysi am dano ef, yno.[1]

Fe wel y darllenydd yn y rhestr uchod gryn nifer o gynghorwyr; rhai o honynt nad oes genym un crybwylliad am eu henwau, ond sydd yma. allai fod rhai o honynt wedi cael caniatâd i gynghori ychydig yn y gymdeithas gartrefol yn unig, a hyny ar brawf; ac nid annhebyg ydyw, wedi rhyw dymhor o brawf, iddynt hwy eu hunain, neu eu brodyr, neu pob un o'r ddau, gael boddlonrwydd na alwesid mo'nynt i'r gorchwyl. Fe ddichon hefyd na fu rhai eraill wrth y gwaith, ond tros dymhor byr cyn i farwolaeth eu dal; ac i eraill gael eu tarfu, neu eu digaloni, pan ddaeth yr ymraniad rhwng Harris a Rowlands, yn y fl. 1751.

Ond am Lewis Evan, y mae genym hanes helaethach; a chan fod y gŵr duwiol hwn wedi teithio, dyoddef, a llafurio llawer, a hyny dros faith flynyddau, y mae yn dra theilwng o sylw arbenig, ac o goffadwriaeth anrhydeddus.

Ganwyd Lewis Evan yn mhlwyf Llanllugan, yn y fl. 1719; ac felly, yr oedd yr un oed a Richard Tibbot. Yr hanes cyntaf sydd am dano ydyw, ei fod yn preswylio gyda'i daid, yn y Crygnant, plwyf Llanllugan. Gwehydd ydoedd o ran ei gelfyddyd;—celfyddyd ag oedd y pryd hyny a chryn ymofyn am dani, gan y byddai teuluoedd Cymru yn gyffredin yn gwneuthur eu llian, brethyn, a'u gwlanen eu hunain. "Pan oedd Lewis o un-ar-bymtheg i ugain oed (medd ei hanesydd), daeth i Drefeglwys, pryd y dygwyddodd iddo glywed Mr. Howel Harris yn pregethu, ac y bu i'r gair gyrhaedd ei galon." Tybiwn na allai ei fod wedi clywed Harris cyn bod yn ugain oed; oblegid

  1. Trefeca Minutes.