Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/145

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galonog. Felly y maent yn weddol dda yn mhob man; ychydig sydd yn gwrthgilio, ac ychydig sydd yn cael eu chwanegu.

"Da fyddai ganddynt i rai o honoch chwi, fy mrodyr, ddyfod i'w mysg mor aml ag y b'o modd, oblegid nid oes yma ond ychydig nifer, wrth sydd mewn lleoedd eraill. Dyma wedd gyffredinol y ddiadell fechan gyda ni."

Dyddorol iawn i'r meddwl ystyriol ydyw cael rhodio megys ar hyd y dywysogaeth gant a chwech o flynyddoedd yn ol, a gallu olrhain llafur yr hen dadau, a chymeryd golwg ar wedd Methodistiaeth pan oedd eto fel Moses yn y cawell brwyn, yn faban gwan, digysur, a diswcr, mewn sefyllfa isel, a than erlidigaeth drom; eto yn dlws i Dduw, a than ofal rhagluniaeth fanol y nef. A dyddorol arbenig fydd hyn i breswylwyr a brodyr y parthau hyny o'r wlad ag y mae yr adroddiad uchod yn cyfeirio atynt, gan y rhoddir iddynt achles megys i gymdeithasu â saint eu gwlad, y rhai sydd wedi huno er ys llawer dydd yn yr angau;-i glywed eu geiriau, i ganfod eu hysgogiadau, ac i rodio yn ol eu traed.

Gan fod yn y wlad hon saith neu wyth o eglwysi bychain wedi eu cynull, a deg neu ddeuddeg o gynghorwyr, a hyny mor fore a'r fl. 1713-4, naturiol ydyw gofyn, trwy ba offerynau y cynyrchwyd hyn oll? Rhaid fod rhywrai wedi bod yn llafurio yn y broydd hyn eisoes; a rhaid hefyd fod eu llafur wedi bod yn effeithiol iawn. Da fuasai genyf allu boddloni yr ymofynydd yn nghylch y pethau hyn; ond ni ellir. Nid oedd neb y pryd hyny yn meddwl ysgrifenu dim o'r hanes, nac yn dychymygu y buasai hanes eu hysgogiadau o un math o fuddioldeb, nac yn cynyrchu un gradd o ddifyrwch i ni yn mhen can mlynedd ar eu hol. Cafodd eu hoes eu hunain lesâd mawr oddiwrth eu llafur; ond ni chaiff oesoedd dyfodol ddim budd oddiwrth eu hanes. Bu llafur y proffwydi a'r apostolion yn fendithiol iawn yn eu hoes eu hunain, a bu eu hysgrifeniadau yn fendithiol hefyd ar ol eu hymadawiad. Gresyn na chawsid hyny yn yr un modd oddiwrth y diwygwyr Cymreig.

Nid oes amheuaeth genym, pa fodd bynag, na fu Howel Harris yn un o'r prif offerynau i arloesi dyrysni y wlad hon. Codwyd ef, fel yr ymddengys, megys i'r dyben yma; cynysgaeddwyd ef â chymhwysderau neillduol i hyn yma, nid yn unig i argyhoeddi ac i ddeffro dynion tywyll a diofal, ond hefyd i'w crynhoi yn nghyd, a'u gosod dan fugeiliaeth. Dywedir am Whitfield a Wesley yn Lloegr, fod un yn medi, a'r llall yn cywain i'r ysgubor. Yr oedd Whitfield yn cenedlu plant trwy yr efengyl, a Wesley yn eu magu— ymlid y gelyn i ffordd a wnai Whitfield; yna deuai Wesley ar ei ol, a meddiannai y tir. Ond yr oedd cyneddfau Whitfield a Wesley yn Harris. Yr oedd ei ddoniau a'i weinidogaeth;—neu, yr oedd ei weinidogaeth, o ran ei dull a'i defnydd, yn gymhwys iawn i dori i lawr yn y maes, ac i gasglu i ddiddosrwydd. Yr oedd min o'r fath awchlymaf ar ei eiriau, a gofal o'r fath fanylaf yn ei drefniadau. Tybygaf nad oes hanes am neb erioed, o leiaf er dyddiau yr apostolion, a fu yn foddion i droi cynifer o ddynion, ac i grynhoi cynifer o gymdeithasau eglwysig, mewn amser mor fyr, ag a fu Howel Harris yn Nghymru. Nid oedd sir Drefaldwyn ddim yn mhell o Defeca;