Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/154

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhai yn brolio dan yspeitio
Fe ddarfu witsio ei wedd;
'Y mae fe'n edrych fel rhyw angau,
'A fyddai'n mron ei fedd.'
Ac er i'r byd fy nghablu'n nghyd,
Yr wyf yn credu, er hyny i gyd,
Y caiff gwas'naethwyr Duw ryw bryd,
Lawen-fyd, ffraeth-fyd, ffri;
Duw, maddeu i'r bobol anystyriol,
Sy'n beio ar dduwiol ddawn;
A thro'u meddyliau i fyw'n dduwiolaidd,
Mewn pur wirionedd iawn:
Duw dyro ras i mi dy was,
I ochel camwedd, suraidd siâs,
A dwg fi gwedi yn ddigâs,
I'th addas deyrnas di.

JOHN RICHARDS a'i cânt, ar ei droedigaeth ef ei hun.

——————

Cymerwyd y gŵr hwn yn glaf yn fuan ar ol y tro y soniwyd uchod am dano yn Mrwynog, gan glefyd trwm, nes iddo ef ei hun, ac eraill, amheu am ei adferiad. Bendithiodd Duw y clefyd hwn iddo, i ysgytio graddau ar ei gydwybod, a'i deffroi o'i chwsg; yntau a addunedodd os estynid ei oes, y rhoddai heibio ei hen ddull o fyw, ac yr ymadawai â'i hen gyfeillion ofer. Gwelodd rhagluniaeth yn dda roddi iddo ei ddymuniad, ac adferwyd ef i'w iechyd a'i nerth. Yntau, yn ol ei adduned, a ymosododd yn erbyn ei hen arferion, a themtasiynau ei oes, gan ymroddi i fyw yn foesol a dichlynaidd, ac ymarfer â gweddio yn ei deulu fore a hwyr. Nid oedd eto, tybygid, yn gwybod nemawr am drefn cadwedigaeth dyn trwy Gyfryngwr; ond yr oedd. ei gydwybod yn dyner, a'i amcan yn gywir. Aeth y son am y cyfnewidiad a ymddangosai bellach ynddo trwy yr holl wlad; ac yn mysg eraill, clybu yr ychydig grefyddwyr ag oeddynt yn y fro am dano, ac anfonasant air ato, amryw weithiau, i hysbysu iddo pan fyddai gŵr dyeithr i'w ddysgwyl i bregethu yn yr ardaloedd hyny. Ond ni wnaeth un sylw o'r gwahoddiadau hyn dros ryw dymhor; ond o'r diwedd, dechreuodd feddwl y gallai fod gan yr Arglwydd lais tuag ato trwyddynt, ac mai nid iawn oedd bod yn fyddar i'r llais hwnw. Y tro nesaf, gan hyny, ag y deallai fod pregeth i fod, efe a aeth yno i'w gwrando. Y lle yr oedd y bregeth ar y pryd, oedd yr awyr agored wrth Dafarn-y-fedw, pentref bychan o gylch milldir i'r dwyrain o dref Llanrwst. Trwy y bregeth hon, daeth John Richards i brofi argyhoeddiadau dwysach o'i bechadurusrwydd a'i drueni, ac i ddeall yn gywirach am ffordd y bywyd. Dygwyd ef yn awr i ffoi i gymeryd gafael yn ngobaith yr efengyl, a llanwyd ef o lawenydd trwy gredu. O hyny allan, rhoes ei hunan. i'r Arglwydd, ac i'w bobl: ymunodd bellach â'r ychydig bobl druain dlodion, y rhai a ddirmygid yn fawr gan y byd, ond a obeithient yn enw yr Arglwydd.

Tarawodd ei droedigaeth ei gydnabod oll â syndod aruthrol, ond nid oedd neb a feiddiai ymliw ag ef, gan mor uchel y safasai yn nghyfrif ei gydwladwyr; ar yr un pryd, ni a welwn wrth y pennillion a ganodd fod yr hen sarff wedi chwythu anfri arno yntau, trwy ei ddrwg-liwio fel pengrwn peryglus, coegyn hunanol, neu grefyddwr pen-isel a phruddglwyfus. Ond rhagddo yr aeth ef er pob iselhad yn ei yrfa grefyddol. Cynyddai, bellach, yn gyflym mewn gras a gwroldeb, ac ymosododd i ymlid ymaith y gaddug o dywyllni a orchuddiai .ei wlad. Eiddigeddai dros achubiaeth ei gymydogion, y rhai