Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/173

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

atynt, ac yn dymuno cael rhan yn eu llafur, a rhoddi iddynt law o gymhorth. Ac yn chwanegol at hyn, yr oedd amryw ddynion di-urddau yn dod i'r golwg, mewn gwahanol barthau o'r wlad, ac yn mysg y dysgyblion ieuainc, y rhai a feddent helaethach gwybodaeth a dawn nag eraill, ac a deimlent awydd i rybuddio eu cyd-ddynion o'u perygl, yn yr un modd ag y gwnaethai Harris ei hun. Naturiol iawn ydoedd i Harris yn enwedig ymwrando ag eirchion y dynion hyn; a chan fod cri y dychweledigion hefyd mor uchel a thaer am ymgeledd a chyfarwyddyd, yr oedd agos yn anmhosibl peidio. Wele, gan hyny, luaws o ddynion ar hyd y gwledydd wedi eu deffroi am eu cyflwr ysbrydol, heb neb wrth law i'w harwain a'u bugeilio:—wele nifer o ddynion hefyd yn codi yn eu plith, yn meddu gradd o gymhwysder i'r gwaith, ond heb un drefn benodol i'w gosod ynddo, a'u harolygu; ac wele hefyd ryw nifer o weinidogion, wedi derbyn urddau esgobawl neu ymneillduol eisoes, yn cynyg eu cynorthwy a'u gwasanaeth;—a pha beth oedd i'w wneyd? Amlwg yw fod yn rhaid gwneuthur rhywbeth, i gyfarfod â'r amgylchiadau newyddion hyn. Ond pa beth? pwy oedd i ysgogi yn y gwaith? a pha fodd? Yr oedd perygl esgeuluso ac oedi, rhag gwneuthur cam â'r eneidiau a ymofynent am ymgeledd, a rhag y buasai dynion anghymhwys yn cymeryd arnynt y gwaith, ac yn peri dyryswch ac ymrysonau.

Yn y cyfwng hwn, ymgyfarfyddai Harris, Rowlands, Davies, a Williams, â'u gilydd i gydymgynghori pa beth a ddylid ei wneyd, a pha fodd y dylid ysgogi ato. Disgynai llawer o'r gwaith hwn yn naturiol ar Howel Harris. Yr oedd gan Daniel Rowlands eglwysi plwyfol dan ei ofal; ac yr oedd Williams, Pant-y-celyn, eto yn gurad, a than awdurdod ei uwchradd. Nid oedd iechyd Howel Davies, chwaith, ond gwanaidd mewn cydmhariaeth; a than yr holl amgylchiadau, disgynai y gwaith o ofalu a threfnu, yn gystal a theithio, ar y gwron cryf ei iechyd, gwrol ei feddwl, a diflino ei ysbryd, Howel Harris. Efe hefyd a fuasai yn y blynyddoedd cyntaf y prif offeryn i ddeffroi pechaduriaid yn amrywiol barthau y wlad. Arno ef yr edrychai y lluaws dysgyblion fel eu tad, a pharod oeddynt i wrando arno, ac i ymostwng i ba beth bynag a ofynai efe ganddynt.

Ymddengys fod y brodyr hyn yn ymgyfarfod yn achlysurol er dechre y fl. 1740, i'r dyben i bregethu ac i ymgynghori. "Ymgyfarfyddai y brodyr yn Nghymru," medd Harris ei hun[1], "(unwaith y mis, ac unwaith yn y deufis) cyn dyddiad y llyfr hwn, pryd y chwiliasant i gymhwysder llawer o'r cynghorwyr, ac i le priodol pob un, ond ni ddaethpwyd i un cytundeb penodol hyd ddyddiad y llyfr hwn (1742), pryd yr anfonwyd am Mr. Whitfield, ac yr ymddangosai mai ewyllys yr Arglwydd ydoedd, trwy oleuni unedig yr holl frodyr, ar ol dysgwyl yn rhydd wrth yr Arglwydd, a thrafod yr holl achos; sef mai arolygwyr a chynghorwyr a fyddai y drefn yn mhlith y brodyr diurddau; fod i'r brawd Harris eu harolygu hwynt oll; a bod y gweinidogion ordeiniedig i fyned o amgylch gymaint ag a allant; bod i'r arolygwyr

  1. Trefeca Book of Minutes, under date of 1742.