i'r cynulleidfaoedd, a'r rhai olaf i gynghori yn y cymdeithasau eglwysig yn unig. Yr oedd hefyd rai gweinidogion ymneillduol yn cael eu cyfrif yn aelodau y Gymdeithasfa, yn neillduol un o'r enw Benjamin Thomas, ac un arall o'r enw Henry Davies. Am y cyntaf o'r ddau y penderfynwyd yn nghymdeithasfa Pont-yr-hyd, Hydref 3, 1744, fod iddo gynorthwyo y brawd Howel Harris yn yr arolygiaeth dros holl Gymru, yn lle un Herbert Jenkins, yr hwn a elwid, gan faint yr angen, i bregethu a llafurio yn Lloegr.
Yr oedd yr arolygwyr i anfon cyfrif, fel y soniwyd, i'r gymdeithasfa, yr hwn gyfrif oedd i gynwys, nid yn unig olygiad cyffredinol ar y gwaith yn ei grynswth, ond hefyd nifer ac enwau yr holl aelodau yn y dosbarth, wedi eu dosbarthu yn feibion ac yn ferched, yn briod, ac heb fod yn briod. Dysgwylid hefyd fod profiad pob un, neu agwedd ei gyflwr ysbrydol, i lawr. Difyr a dyddorol yn ddiau a fydd gan ein darllenydd gael ychydig enghreifftiau o'r dull a ddefnyddiai y tadau i roddi y cyfrif hwn o'u bugeiliaeth:
Enwau yr aelodau | Eu sefyllfa |
---|---|
Gwŷr priod | |
Thomas James. | —Tystiolaeth gyflawn ac arosol |
Thomas Bowen. | —Mewn rhyddid helaeth. |
Evan Evans. | —Wedi cael tystiolaeth, ond yn wan mewn gras. |
Gwragedd | |
Sarah Williams. | —Wedi ei chyfiawnhau, ac yn dyfod allan o'r pair. |
Sarah James. | —Tystiolaeth gyflawn, ond mewn caethiwed mawr. |
Elizabeth Bowen. | —Tystiolaeth gyflawn, ond wedi ei gadael i raddau. |
Ann Baisdel. | —Profiad hyfryd, ond eto yn wan. |
Mary Bowen. | Ceisio yr Arglwydd Iesu o ddifrif. |
Margaret Lewis. | —Yn ddiweddar wedi ei chyfiawnhau. |
&c. &c. | &c. &c. |
Rhys Williams. | —Tywyll iawn. |
Edward Winston. | —Mewn caethiwed trwm. |
Ann Lloyd. | —Dyfal geisio mewn tywydd mawr. |
Elizabeth Evans. | —Yn y ffordd yn ceisio. |
Margaret Evans. | —Yn ei chariad cyntaf. |
Ann Price. | —O dan argyhoeddiadau. |
Elizabeth Williams | —Dan lwyth o anghrediniaeth. |
Mary Williams. | —Heb allu llawn i gredu. |
Ann Thomas. | —Mewn gradd o ryddid. |
Margaret Jacob. | —Mewn caethiwed. |
Yn y modd yma yr â y gŵr hwn dros wyth o gymdeithasau yn ei ddosbarth, gan nodi yn gyffelyb agwedd ysbrydol pob un, i gyd yn 134 o rifedi. Yr oedd yn ei ddosbarth naw o gymdeithasau eraill, am y rhai nid oedd cyfrif. Nid oedd amryw o honynt ond newydd ymgrynhoi, ac eto heb eu trefnu; ac am un y dywedir, "Ni ymostwng eto i un drefn." Dybena yr arolygwr yr hanes fel hyn:-" Gogoniant i'n hanwyl Waredwr am y dechreuad hwn, gan obeithio y gwna efe ei Jerusalem yn foliant yr holl ddaear, waith y mae llawer o le. Am hyny, gweddiwch lawer drosom, ac hefyd dros yr annheilwng fi.—THOMAS JAMES."