Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/195

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwy nag a gynwysid mewn tŷ anedd o faintioli cyffredin; ac os dygwyddai eu bod yn rhy luosog i dŷ, nid oedd ond pregethu yn yr awyr agored. Mewn tai hefyd yr oedd y cyfarfodydd eglwysig yn cael eu cynal. Oblegid hyn, yr oedd llai o sefydlogrwydd yn perthynu i'r cynulliadau yn y blynyddoedd hyny, nag sydd yn awr, wedi codi adeiladau penodol i'r dyben. Symudai y gynulleidfa gynt o dŷ i dŷ, gan wahanol amgylchiadau; ac ni ellid dysgwyl arosiad hir a pharhaus iddi ond yn anfynych iawn. Dysgwyliai y diwygwyr yn ddiau y cedwid yr adfywiad o fewn cylch yr eglwys sefydledig; anfoddlawn oeddynt, gan hyny, o leiaf dros ryw dymhor, i brysuro i godi adciladau penodol i addoli ynddynt, rhag fod un ymddangosiad eu bod ar fedr ffurfio plaid, neu gyfundeb newydd o grefyddwyr.

Dangoswyd yr un hwyrfrydigrwydd i ymadael â'r hen aelwyd, er oered ydoedd, trwy amgylchiad arall. Pasiwyd deddf yn nheyrnasiad Charles yr ail, fod dirwy o chwe swllt ar bob un uwchlaw un-ar-bymtheg oed, a geid mewn un cyfarfod ag y byddai ynddo fwy na phump o bersonau. Yr oedd £20 o ddirwy i fod ar y neb a bregethai mewn cyfarfod o'r fath, ac £20 hefyd o ddirwy ar y neb a oddefai i'r fath gyfarfod gael ei gadw yn ei dŷ. Galwyd hon yn Conventicle Act. Ond yn nheyrnasiad William a Mary, lliniarwyd y ddeddf hon mewn perthynas i ymneillduwyr. Rhoddid iddynt ganiatâd i gyfarfod yn y lle a'r amser y mynont, os byddai yr adeilad wedi ei chofrestru yn llys yr esgob, ac os byddai y pregethwr wedi cymeryd y llwon gosodedig, ac wedi cael yr ysgrif gyfreithiol o ganiatâd (license). Ond cyn y gellid cael y diogelwch hwn, rhaid oedd gwneuthur proffes o ymneillduad oddiwrth yr eglwys, a cheisio ar gyfrif yr ymneillduad hwnw nodded y gyfraith; ond hyn ni wnai ein hen dadau. Ni fynent i neb eu cyfrif yn ymneillduwyr, ac ni allent ymofyn am yr amddiffyniad a fwriadai y gyfraith i ymneillduwyr: a chan hyny, yr oeddynt yn agored i'r dirwyon trymion cynwysedig yn nghyfraith Charles yr ail. Y mae yn beth hynod hefyd, gan faint oedd cynddaredd dynion yn erbyn y Methodistiaid, un fuasai rhyw un yn ystod y blynyddoedd cyntaf, yn rhoddi y gyfraith hon mewn grym ar y pregethwyr, yn gystal ag ar y rhai a'u derbynient i dŷ, ac a ymgynullent i'w gwrando. Trwy ryw fodd neu gilydd, fe'u cadwyd rhag lymder tost y ddeddf hon am flynyddoedd; ac erbyn i ŵr boneddig yn sir Feirionydd ei defnyddio yn llym yn erbyn y pregethwyr a'u gwrandawyr, yr oedd meddyliau y Methodistiaid wedi ymddiddyfnu gradd oddiwrth eglwys Loegr, ac yn haws ganddynt, yn enwedig yn Ngwynedd, wneuthur y broffes angenrheidiol o ymneillduaeth, a llechu o dan aden y gyfraith a basiwyd er eu mwyn.

Hawdd ydyw meddwl na allai y wedd hon ar bethau barhau yn hir. Gellid dysgwyl yn hawdd, tra y parhâai yr eglwyswyr i erlid a gorthrymu, y deuai ymlyniad y Methodistiaid wrth yr eglwys i ddechreu llacio. Yr oedd y gyfraith eisoes wedi parotoi iddynt noddfa, os addefent eu hunain yn ymneillduwyr; a gwelent hwythau yn raddol, nad oeddynt yn ennill dim wrth warafun ymneillduaeth, ond gorthrwm yr eglwyswyr. Nid oedd modd cael