Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/208

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwanegu at eglwys Mr. Edwards mewn ysbaid chwe mis. Yr un modd yr oeddynt yn heidio i dŷ Dduw trwy yr holl dalaeth ymron, "a nifer mawr a gredodd ac a drodd at yr Arglwydd." Os ydyw angylion y nef yn llawenhau am un pechadur a edifarhao, pa destyn o lawenydd i nef a daear ydoedd am y miloedd o bechaduriaid a ddychwelwyd yn New England yn yr adfywiad grynus hwn!

Cafodd Northampton ail adfywiad, cyffelyb yn ei natur, er yn amrywio yn ei raddau, tua'r blynyddoedd 1740-1. Torodd allan y tro hwn i ddechreu dan weinidogaeth y dyn hynod hwnw, George Whitfield, yr hwn a ddaethai i America yn yr amser crybwylledig. Toddai yr holl gynulleidfa fawr yn hylif o ddagrau dan ei weinidogaeth, a deffrowyd llaweroedd, rhai proffeswyr o'u cysgadrwydd a'u diogi, ac eraill i deimlo, am y tro cyntaf erioed, eu hangen am Geidwad. Aeth yr adfywiad yma yn mlaen yn ystod y fl. 1741. Mynych iawn y gwelid tai yn llawn o bobl ieuainc a hen, yn llefain ac yn llewygu, gan drallod meddwl yn achos eu heneidiau.

Gwelwn oddiwrth y dyfyniadau uchod, fod dechreu 1700 yn amser i orphwys o olwg yr Arglwydd," mewn llawer o barthau y byd, lle y pregethid Crist a'i groes. Yr oedd yn "amser cymeradwy yr Arglwydd," yn "ddydd dial ein Duw ni" ar ddiafol a'i deyrnas;-amser ydoedd i roddi "gollyngdod i'r caethion, caffaeliad golwg i'r deillion, ac i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb." "Duw a roddes ei lef, a chrynodd y ddaear." Wele Gymru a Lloegr, Scotland ac America, yn cyffroi gan ddylanwadau Ysbryd yr Arglwydd.

Ni fu yr un ganrif mor llawn o ddygwyddiadau hynod ac echrydus a'r ail-ar-bymtheg, na'r un mor hynod am ddiwygiadau crefyddol a'r ddeunawfed. O'r fl. 1603, pryd y bu farw y frenines Elizabeth, hyd y fl. 1689, pryd y daeth William a Mari (nid Mari waedlyd) i deyrnasu, yr oedd yr holl deyrnas yn llawn o gyffroadau gwladol ac eglwysig. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg y bu gwrthryfel yn Iwerddon; y rhyfel gwladol yn Scotland; y torwyd pen Charles I; ac y cymerodd Cromwel y llywyddiaeth. nechreu y ganrif hon y lladdwyd yn agos i 70,000 o breswylwyr Llundain gan y pla. Yn 1607 y daeth y môr yn llifeiriant aruthrol i orchuddio parthau eang o siroedd Deheudir Cymru, a siroedd Caerloyw a Somerset yn Lloegr. Mor rhyferthol, grymus, a disymwth oedd y llifeiriant aruthrol hwn, nes oedd tai ac eglwysi yn cael eu hysgubo o'i flaen, ac y boddwyd tua 500 o bobl. Yn y fl. 1613 y llosgwyd Dorchester, pen tref Dorsetshire, pryd y gwnaed 300 o dai yn lludw. Yn y fl. 1625 y daeth y pla eilwaith i Lundain, ac y cymerodd ymaith fwy na 35,000 o ddynion; a thrachefn, yn y fl. 1636, pan y bu y pla mawr yno, ysgubwyd ymaith 100,000 o'r preswylwyr. Yn yr Iwerddon yn ystod y gwrthryfel yno, yn 1642, lladdwyd ar y dydd cyntaf o Fawrth, 154,000 o Brotestaniaid, a dyfethwyd yn y rhyfel gyda hyny 300,000. Yn y fl. 1666 y torodd allan y tân mawr yn Llundain, ac y llosgwyd dros dair mil ar ddeg o dai, y rhai a gyfansoddent bedwar sant o heolydd. Ond yr oedd y ganrif 1700 mor nodedig am adfywiadau