Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/220

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Arglwydd yno, pryd y mwynhaodd ymweliad neillduol oddiwrth Dduw, nes llenwi ei enaid â gorfoledd. O Gaerloyw aeth i sir Faesyfed; ac fel y bydd ymweliadau rhyfedd yn rhagflaenu dyoddefiadau mawrion, neu yn darbod gogyfer â rhyw orchwyl arbenig: felly y bu y tro hwn. Cymerwyd ef i fyny wrth lefaru mewn gwylmabsant; a rhwymwyd ef drachefn i ateb yn y chwarter sessiwn. Yr adeg a ddaeth, a thaflwyd ei arholiad hyd chwarter arall. Yn y cyfamser, gwnaed cais teg am ei fywyd. Meddai ef ei hun, 'Amcanwyd y pryd hwnw ddwyn ymaith fy einioes, fel y canlyn: Yr oedd y dadleudy (hall) yn oruwch-ystafell, a rhes o risiau uchel yn arwain iddi," gogyfer â'r heol. Cyfleodd y terfysgwyr eu hunain ar ben y grisiau, gan fwriadu fy hyrddio i lawr; a diau, pe gwnaethid hyny, mai fy lladd a wnaethid. Ond pan oeddynt yn dechreu fy nghilgwthio, a gwyll y nos wedi dyfod, deallodd gŵr boneddig cyfrifol, un o ben swyddogion y frawdle, eu bwriad; a phan oeddwn ar ymyl cael fy mwrw i lawr, fe'm cipiodd o'u dwylaw, a chan fy amddiffyn, a'm dygodd gydag ef i'w lety."

Yr oedd y teithiau hyn, er mor beryglus i gysur, ac yn wir i fywyd Mr. Harris, yn foddion o leiaf i godi cyffro yn nghylch materion crefydd; a mynych iawn y byddai saeth argyhoeddiad yn cyrhaedd calon un ac arall a geid yn mysg y terfysgwyr barbaraidd hyn. Yr oedd had anllygredig yr efengyl yn y modd yma yn cael ei hau, yr hwn a welwyd yn mhen amser maith ar ol hyn yn egino ac yn ffrwytho.

Pan ddaeth ei arholiad ef, yr oedd gŵr boneddig o'i gydnabod wedi darpar dadleuwr drosto, a chafwyd ef yn ddiniwed, ac o ganlyniad gollyngwyd ef yn rhydd eilwaith. Bu agos iddo a chael ei gymeryd i fyny drachefn yn Nghaerfyrddin; ond ymddengys fod y gŵr enwog a ddaethai yno i'r dyben hyny, dan gamgymeriad am yr hyn y cyhuddid ef: yr hwn, wedi cael ymddyddan â Mr. Harris, a deall pa beth ydoedd ei amcan, a roes genad iddo yn y fan i lefaru wrth y bobl.

Nid Howel Harris yn unig a fu yn ddefnyddiol trwy ei deithiau i eangu terfynau y cyfundeb, er y bu ef, mae yn wir, dros ysbaid pymtheg mlynedd cyntaf ei oes weinidogaethol yn dra bendithiol fel pregethwr teithiol, trwy Ogledd a Deau; eto nid oedd ef yn unig yn hyn. Mae yr hen ganiedydd peraidd, Williams, Pant-y-celyn, yn ei hen ddyddiau, pan oedd yn 73 ml. oed, ac yn tynu yn agos i derfyn ei oes, yn dweyd,—" Mae fy nyddiau yn tynu tua'u terfyn: mae fy ngyrfa ymron wedi ei rhedeg. Cefais oes faith; yr wyf yn awr yn 73 ml. oed. Yr wyf wedi bod yn pregethu am y 43 ml. diweddaf, ac wedi teithio bob wythnos at ei gilydd rhwng deugain a deg-adeugain o filldiroedd dros yr holl amser hyny. Y gwanwyn diweddaf, mi a deithiais bedair neu bum waith trwy siroedd Deheudir Cymru; pob taith yn para pymthegnos o amser, ac yn 200 milldir o hyd."

Gellir ffurfio rhyw ddrychfeddwl am ei deithiau, pan y dywedir iddo deithio digon o filldiroedd i gyrhaedd bedair gwaith o amgylch y ddaear, nid llawer llai na chan mil o filldiroedd! O ba faint o ddefnydd y gellir meddwl y bu y gŵr hwn yn ei oes i Gymru dywell? Pa sawl pregeth a