a allai fod yn eu cymhell? Ni weithredent hwy, mwy na dynion eraill, heb gymhelliad yn y byd. Yr oedd ganddynt eu cynhelliadau, a'r rhai hyny yn uchel ac anrhydeddus; nid llai na gogoneddu Duw yn iachawdwriaeth dynion; nid llai nag eangu teyrnas Crist, a lluosogi teulu Duw. Yr oedd eu haidd i gyrhaedd hyn yn angherddol. Nid oedd dim arall a'u boddlonai. At hyn y cyfeiriai eu gweddiau taerion, a'u llafur blin. Er mwyn hyn dyoddefent warth a dirmyg, sarhad a cham. Ac yn hyn ni siomwyd hwy, ond derbyniasant hwythau eu gwobr. Ni adawyd iddynt lafurio yn ofer, na threulio eu nerth am ddim. Rhoddwyd iddynt weled ewyllys yr Arglwydd yn llwyddo yn eu llaw. A llwyddent hefyd yn ol graddau tanbaid ac unplyg eu hamcan. Mewn gair, nid oedd yr awyddfryd angherddol a osodasid yn eu mynwesau, ond gwystl ac ernes o'r llwyddiant a ddylynai. Fel y mae gyda gweddiau personol y credadyn, yr oedd gyda gweinidogaeth y tadau; ac felly hefyd y mae hyd heddyw. Mae ysbryd gweddi yn wystl o wrandawiad. Y mae yn foddion i gyrhaedd y fendith, ac hefyd yn ernes o honi. Yr un modd yr oedd yma cynysgaethodd y Duw mawr y diwygwyr Cymreig ag ysbryd y weinidogaeth i raddau anarferol, a llwyddasant i raddau anarferol. Yr oedd ysbryd y gwaith, a'i lwyddiant, yn cyfateb i'w gilydd.
Heblaw fod ysbryd y gwaith yn llosgi yn fwy angherddol yn y pregethwyr a'r proffeswyr cyntaf, a bod yr ysbryd hwnw yn esgor ar fwy o lwyddiant, yr oedd amgylchiadau y wlad hefyd yn wahanol iawn i'r hyn ydynt yn awr. Yr oedd anhawsderau y gwaith yn llawer mwy rhaid oedd, gan hyny, fod y cymhelliadau tufewnol ato yn gryfach; ac i fantoli yr adfyd oddiallan, gellid dysgwyl y byddai y llwyddiant yn helaethach. Arfer Duw ydyw gwneuthur y naill beth ar gyfer y llall, a rhoddi gras yn gymhorth cyfamserol. Yn gyson â'r syniad hwn, y mae hanes yr efengyl yn ngwledydd y ddaear. Yr amser y byddai yr erlid drymaf, y byddai y llwyddiant amlycaf. Dyddanai Duw ei weision, a siomai ei elynion, trwy roddi llwyddiant cyfatebol i'r blinder. Os ydyw y syniadau hyn yn gywir—ac nid yw yr ysgrifenydd, o leiaf, yn eu hamheu—fe roddir i ni gymhorth i ddirnad paham "yr oedd y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddian hyn"—yn fwy miniog eu gweinidogaeth, ac yn lluosocach eu dychweledigion? Yr ateb ydyw, mai cyfiawn gerbron Duw ydoedd dyrysu amcanion diafol, a lloni meddyliau ei bobl, i'r un graddau ag y byddai yr ymgyrch ar ei achos gan erlid a thrais. "Fel yr oedd dyoddefiadau Crist yn amlhau" yn yr hen Fethodistiaid, "felly trwy Grist, yr oedd eu dyddanwch hefyd yn amlhau," trwy fod mwy o orfoledd yr iachawdwriaeth yn cael ei fwynhau ganddynt yn bersonol, a thrwy fod bendithion helaethach yn cael eu rhoddi trwy eu llafur swyddol. Arweinir ni gan yr ystyriaethau uchod i'r penderfyniad, pe byddai cymaint o ysbryd y gwaith, yn ei holl ranau, o fewn ein calonau, yn yr oes hon, a chymaint o ymosodiad ac adfyd oddiallan, y rhoddid i ni, megys y gwnaed i'n tadau, raddau cyfartal o gysuron personol, ac o lwyddiant gweinidogaethol.
Ond hwyrach fod ymofyniad arall yn deilwng o ystyriaeth, "A ydyw y llwyddiant, mewn gwirionedd, gymaint yn llai yn y dyddiau hyn, nag oedd