Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/249

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae agos yn anghredadwy, pa fodd y cododd cynifer o gynghorwyr mewn amser mor fyr, a than anfanteision mor fawrion. Nid oedd ond tua chwe blynedd er pan ddechreuasai Harris a Rowlands ddod i sylw cyhoeddus; ac eto, wele ddeugain o gynghorwyr wedi eu codi at y gwaith! Mae hyn yn fwy syn, pan yr ystyriom leied o foddion gwybodaeth oedd yn y wlad; leied o feiblau oeddynt yn y tir; a lleied y nifer a fedrent ei ddarllen. Ymddengys i mi yn beth tebygol fod ysgolion cylchynol Griffith Jones wedi gwasanaethu i ddwyn hyn oddiamgylch, megys yn ddifwriad a diarwybod. Ymofynid am wŷr i gadw'r ysgolion hyny a fyddent o air da, ac yn meddu gradd o wybod aeth eu hunain, a gradd o gymhwysder i gyfranu gwybodaeth i eraill. Arferent holi yr ysgolheigion bob dydd yn egwyddorion ac ymarferion crefydd; a thrwy hyn, cyrhaeddent fesur mwy neu lai o rwyddineb a medrusrwydd i gyfarch cynulleidfa ar bynciau crefyddol. Nid oes amheuaeth chwaith na theimlai rhai o'r dysgawdwyr dirodres hyn awyddfryd cryf i draethu gair y bywyd i'w cydgreaduriaid; ond hyd yn hyn, nid oedd nac annogaeth i, nac esiampl o, hyny. Edrychai gweinidogion eglwys Loegr, o ba un yr oedd yr ysgolfeistriaid hyn yn aelodau, ac i reolau pa un y dysgid hwy i ufyddhau, ar waith neb, pwy bynag, o honynt yn cymeryd arnynt bregethu, yn ymddygiad afreolaidd, yr hwn yr oedd yn rhaid ei anghefnogi a'i lethu. Ond pan y daeth Howel Harris ar led y wlad, yr hwn oedd ei hun yn euog o'r cyfryw afreolaeth; a phan y caed prawf fod y cyfryw lafur afreolaidd yn cael ei goroni â llwyddiant mawr; aeth eraill yn hyf, trwy ei esiampl a'i annogaeth ef, i ymroddi yn fwy egniol a chyhoeddus i'r gwaith.

Yr oedd y cam hwn yn bur hawdd ei roddi dan y cyfryw amgylchiadau. Arferai yr athrawon gyfarch eu hysgolorion eisoes; yr oeddynt eisoes wedi cyrhaedd gradd o wybodaeth ysgrythyrol hwnt i'w cymydogion yn gyffredinol; ac yr oedd ganddynt fwy neu lai o ddawn i gyfranu gwybodaeth: hyn, yn nghyda'r awyddfryd a deimlent eisoes a chynt i rybuddio eu cyd-ddynion diofal, o'u dirfawr berygl, a barai i amryw o honynt dori allan dros ben y rheolau gosodedig, ac ymroddi yn fwy llwyr, cyhoeddus, ac egniol, at y gwaith o bregethu. Yr oedd amgylchiad arall yn galw am hyn yma. Bellach, yr oedd nifer mawr o fân gynulliadau eglwysig yn arfer ymgrynhoi at eu gilydd, yn ngwahanol barthau y wlad. Y rhai hyn, yn absenoldeb gweinidogion rheolaidd ac urddedig, a ymosodent yn daer ar y sawl y gwyddent fod ynddynt radd o gynhwysder i ddyfod atynt, a thraethu iddynt "holl eiriau y fuchedd hon." Yn y fl. 1744, yr oedd saith ugain o'r cymdeithasau bychain hyn eisoes wedi eu ffurfio yn Neheubarth Cymru yn unig; a chan faint eu hawyddfryd i fwynhau gweinidogaeth y gair, mawr oedd eu taerni am ei chael, a mawr y pris a roddent arni.

Ysgolfeistr o'r fath a soniwyd oedd Jenkin Morgan, yr hwn y bu y fath lwyddiant ar bregeth o'r eiddo yn y Bala, ac a fu yn un o'r rhai cyntaf yn pregethu yn mhlith y Methodistiaid yn Lleyn, yn sir Gaernarfon. Ysgolfeistr felly oedd Robert Jones, awdwr "Drych yr Amseroedd," ar y cyntaf; yr hwn, wedi arfer ei ddawn dros ychydig amser mewn cysylltiad â'r ysgol,