Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/260

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV

DIWYGIADAU YN FODDION CYNYDD Y CYFUNDEB

CYNWYSIAD:—

NATUR AC EFFEITHIAU ADFYWIAD CREFYDDOL—ADFYWIADAU 1795 A 1762—ADFYWIADAU YR YSGRYTHYR—MODDION A DULL ADFYWIAD—ADFYWIADAU IWERDDON A SCOTLAND—AMRYWIAETH EU FFURF, AC UNFFURFIAETH EU NATUR—NEIDIO MEWN GORFOLEDD—SYNIAD Y PARCH. J. A. JAMES, BIRMINGHAM—ADFYWIADAU AMERICA—EFFAITH YR ADFYWIADAU AR GYNYDD Y CYFUNDEB—TYSTIOLAETH MR. CHARLES A JOHN NEWTON—ADFYWIADAU YN LLEYN, EIFIONYDD, YSBYTTY, BEDDGELERT—"CANU YN YR AWYR," &c.

DEFNYDDIR y gair "diwygiad" ar grefydd, i ddynodi tymhor neu adeg o adfywiad ynddi, a chwanegiad nodedig at ei deiliaid: adeg y bydd deffroad at chyffro yn mysg proffeswyr, a grym a mwynhad neillduol yn ngweinyddiad ordinhadau yr efengyl.

Pa reswm neu gyfrif bynag a roddir am y cyfryw adfywiad, y mae y ffaith yn anwadadwy. Y mae y cyfryw dymhorau ar grefydd wedi bod, nid yn unig yn Nghymru, ond yn Lloegr, Scotland, Iwerddon ac America. Dichon hefyd fod ychydig o wahaniaeth yn ngwedd diwygiadau gwahanol wledydd, ie, yn ngwedd diwygiadau yr un wlad ar wahanol dymhorau; eto y ffaith sydd Sicr ac anwadadwy. Ar ryw gyfrifon, nid yw y can mlynedd oes Methodistiaeth ond un diwygiad yn hanes Cymru; ond ar gyfrifon eraill, y mae i Fethodistiaeth y can mlynedd a aethant heibio lawer o ddiwygiadau o fewn Methodistiaeth ei hun. Diwygiad mawr yn hanes eglwys Crist ydoedd y diwygiad protestanaidd, pryd y cafodd anghrist y fath wrthdarawiad. Drachefn, diwygiad hynod, yn hanes protestaniaeth, oedd yr adfywiad a fu trwy Whitfield a Wesley, ac ar ol hyny trwy Berridge, Venn, a Grimshaw, yn Lloegr; a thrwy Harris a Rowlands yn Nghymru. Yr un modd y mae yn hanes Methodistiacth Cymru amrywiol ddiwygiadau o'i fewn ef ei hunan, y rhai a roddent ysgogiadau adnewyddol i'r gwaith da, fel ag i eangu ei derfynau, lluosogi ei ddeiliaid, a chadarnhau ei wreiddiau.

Arferai gweinidog duwiol yn America, o'r enw Stoddard, yr hwn a fu farw tua'r fl. 1729, ddweyd, y bu iddo ef, yn ystod ei weinidogaeth, bum cynhauaf, fel y galwai ef y diwygiadau. Parhaodd ei weinidogaeth tua 60 mlynedd; ac fel yr oedd y gŵr hwn yn nodedig am ei ddawn a'i ras, felly yr oedd hefyd am ei lwyddiant. Gwelodd bump o ddiwygiadau grymus yn ei amser, pryd y casglwyd i mewn, megys yn amser cynauaf, lawer o lafur enaid y Messia. Nid oedd y diwygiadau hyn yn disgyn ar dymhorau cyson a rheolaidd, ac nid oeddynt, chwaith, yn gyffelyb o ran amledd y dychweledigion, grymusder eu gweithrediad, na meithder eu parhad. Yr oedd yr Ysbryd yn gweithredu, yn hyn yma, yn ol ei ewyllys ei hun, fel y mae y gwynt yn chwythu lle y myno.

Ar ol yr ysgogiad cyntaf a roddwyd i achos crefydd yn Nghymru, yn benaf trwy weinidogaeth y tadau y soniasom eisoes am danynt, a thra yr oedd yn raddol yn ennill tir trwy Ddeheudir a Gogledd, cyfarfu â gwrthdarawiad arswydus tua'r fl. 1751, pryd y torodd anghydfod allan rhwng