eithiog. Pan oedd yr eglwysi bychain yn cael eu rhwygo gan bleidiau; pan oedd y cynghorwyr bach llwydion ar hyd y dywysogaeth, yn sefyll yn syn ac yn betrusgar, heb neb o ymddiried a dylanwad yn eu plith, i'w harwain a'u harolygu; pan oedd ysbrydoedd y brodyr yn drallodedig a llwfr, a gwedd yr erlidwyr yn eofn a buddugol, daeth Duw i'r maes, mewn adfywiad rhyfeddol. Disgynodd fel cawodydd o wlaw ar ddaear sych, yr hon oedd yn agenu gan wres. Parodd i'r anialwch a'r anghyfaneddle lawenychu, a'r diffeithwch flodeuo fel y rhosyn. Tywalltwyd yr Ysbryd o'r uchelder. Profwyd pelydrau adfywiol a chysurol Haul cyfiawnder, wedi maith dymhor o oerni a diffrwythder.
Ymddengys fod yr adfywiad hwn, sef yr un a gymerodd le yn y fl. 1762, tuag un mlynedd ar ddeg ar ol yr ymraniad crybwylledig, yn adfywiad eang o ran ei faint, a grymus iawn o ran ei ansawdd. Ymdaenodd dros lawer o barthau De a Gogledd; a bu yr ymweliad yn iachawdwriaeth i gannoedd, os nad i filoedd o bechaduriaid. Ni ellid priodoli yr adfywiadau hyn i ddim moddion arbenig mwy na'u gilydd. Torai allan ar wahanol dymhorau, trwy yr ymarferiad â gwahanol foddion. Torodd allan yn Llangeitho y tro cyntaf pan oedd Rowlands yn darllen cyfran o'r Litani, "trwy dy ddirfawr ing a'th chwys gwaedlyd;" bryd arall, ceid ef mewn cyfarfod i weddio. Torodd allan yn y fl. 1762, ar ddefnyddiad hymnau Williams, Pant-y-celyn, pan ddaeth y llyfr, "Môr o Wydr," allan o'r wasg. Dechreuai weithiau mewn cyfarfod eglwysig, a phryd arall mewn cyfarfod i ddysgu canu. Yn amlaf, ymddangosai yn yr oedfaon cyhoeddus, trwy weinidogaeth yr efengyl, ac yn fynych drwy weinidogaeth gwŷr a gyfrifid yn anenwog o ran dawn a thalentau.
Crybwyllir am un "diwygiad mawr," yr hwn a ddechreuodd yn nghapel Llangeitho yn fuan ar ol troad Rowlands allan o'r eglwys sefydledig. Ymdaenodd y diwygiad hwn dros y rhan fwyaf o Gymru, a chludwyd i mewn gynhauaf toreithiog o bechaduriaid colledig at Fab Duw. Ar yr achlysuron hyn, dyrchefid y pregethwyr yn mhell uwchlaw iddynt eu hunain; llefarent nid fel y byddent yn arfer, ond gwneid hwy yn "gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd." Rhoddid ysgogiad crefyddol i feddyliau dynion trwy ardaloedd cyfain. Ymgasglai preswylwyr yr ardal yn unfryd i'r addoldy. Byddai gwedd arnynt fel pe dysgwylient beth anghyffredin, a disgynai y weinidogaeth arnynt gyda grym annysgrifiadwy. Gwelid dagrau rhai yn llifo; gwelid eraill yn newid eu gwedd, gan faint oedd grym yr argraffiadau. Rhai a syrthient i lawr mewn llewygfeydd; ac eraill a dorent allan mewn ocheneidiau, a llefain, gan ddychrynfeydd ac ing meddwl, fel pe buasai y Barnwr wrth y drws. Clywid rhai yn tori allan mewn mawl a gorfoledd, am eu gwaredu allan megys o safn marwolaeth; ac eraill a safent neu a eisteddent mewn syndod difrifol, neu wedd siriol, wrth ganfod y peth a wnaethid.
Mae Mr. Charles o'r Bala, mewn llythyrau o'i eiddo at wahanol gyfeillion, yn crybwyll yn neillduol am adfywiad grymus ar grefydd tua'r fl. 1791, yn fuan ar ol sefydlu yr ysgolion cylchynol a Sabbothol, yr hwn adfywiad a briodolir i'r ysgolion hyny. "Yma, yn y Bala," meddai Mr. Charles, "fe'n