debyg iawn o liniaru graddau ar y gweithrediadau, ac ar eu heffeithiau. Pan y disgynant yn ddisymwth iawn, neu pan yr ymaflant mewn dynion tra annuwiol, ac o fucheddau afreolaidd, bydd yr effaith yn gryfach, a'r agwedd yn fwy cyffrous; ond nid oes yn hyn ddim amgen nag a ellid ei ddysgwyl, dim ond sydd yn naturiol, ac a ddygwydd beunydd mewn amgylchiadau eraill.
Fe ddygwydd weithiau, fod yr adfywiadau cyffrous hyn yn cychwyn megys, trwy ymaflyd mewn un gwrthddrych, ac yna yn myned rhagddo yn fwy neu lai graddol trwy ymaflyd mewn amryw ar unwaith, ac yn y diwedd grynhoi rhyw luaws mawr gyda'u gilydd. Darllenwn am beth cyffelyb i hyn yn Kilsyth Scotland yn y fl. 1742, tua'r un amser ag yr oedd Cymru, a Lloegr, ac America, yn derbyn yr unrhyw gawodydd. Pan oedd un Mr. Robe, gweinidog y lle, yn pregethu ar y Sabboth, oddiwrth y gair, "Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch," Gal. iv, 19, teimlai wrth ei ddarllen, ei galon ei hun yn toddi, ac ni allai ymattal rhag wylo. Yn fuan ar ol hyn, daeth gwraig ato mewn trallod enaid yn achos ei chyflwr ysbrydol. Y Sabboth canlynol, cafwyd fod pump eraill wedi eu deffro yr un modd. Ond nid oedd hyn ychwaith ond ychydig o ddyferion o flaen y gawod fawr. Y Sabboth drachefn, aeth y gwirionedd allan gyda grym rhyfeddol, nes oedd yr holl gynulleidfa ymron yn teimlo; llawer yn wylo megys am eu hunig-anedig; a llawer yn tori allan i waeddi. a llefain, ac yn eu mysg rai dynion cryfion a dewr. Ar ol y bregeth, ceisiwyd arwain y rhai trallodedig i ysgubor gerllaw, ond nid oedd yno le digonol iddynt gan eu nifer. Dygwyd hwy yn ol, gan hyny, i'r Llan, lle y rhoddwyd gair i ganu, ac y ceisiwyd gweddio yn eu hachos; ond prin y clywid llais y pregethwr, gan eu gruddfanau a'u hwylofain; ie, clywid twrf eu gwaedd o bell: rhai yn cyffesu, gyda dagrau lawer, eu dull annuwiol o fyw; eraill yn erfyn o ddifrif am drugaredd; ac eraill yn gweddio dros eu perthynasau annuwiol. Aeth y gwaith rhagddo am wythnosau a misoedd. Prin y cai y gweinidog amser i gysgu y nos, gan y nifer a ddeuent ato dan drallod meddwl, i ymofyn am gyfarwyddyd. Yr oedd yr adfywiad yn fwy hynod, ac yn fwy hyfryd, am y bu y gweinidog yn llafurio am y deng mlynedd ar hugain blaenorol, heb nemawr lwyddiant. Yr oedd ei enaid er ys maith amser yn dyheu am gael gweled rhyw arwyddion nad oedd ei lafur ef ddim. yn ofer. Ymwelsai haint â'r fro, a chipiasai i ffordd rai o'r aelodau mwyaf crefyddol; ac yn lle bod eraill yn cael eu hennill i lenwi y bylchau, yr oedd argoelion fod y gymydogaeth yn ymgaledu dan yr ymweliad. Daeth newyn ar ol yr haint, ond y cwbl yn ddieffaith. Yr oedd calon gwas yr Arglwydd ymron a llwfrhau; ond pan ydoedd yn gyfyng arno, daeth yr ymweliad. Disgynodd y cawodydd bendithlawn, nes oedd y tir cras yn cael ei fwydo, a ffrwythau hyfryd yn tori allan ar bob llaw. Bellach, anghofiai y gweinidog y deng mlynedd ar hugain tristwch a llafur, gan y llawenydd a roddai pedwar mis o lwyddiant iddo. Yr oedd y dyrchafiad a'r gogoniant a osodwyd arno, yn ad-daliad digonol am yr hir broffwydo mewn sachlian. Edrychai, bellach,