Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/270

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llawer o gamgymeriadau a fu yn mysg dynion da, am na chraffent ar y ddau beth hyn. Gan eu heiddigedd am gael y gwaith o'r iawn ryw, collai rhai eu golwg ar amrywiaeth y ffurf. Ymofynent yn ormodol pa fodd, ac nid pa beth; chwilient am y gradd, yn fwy nag am y rhyw; a barnent natur y gwaith wrth ei raddau. Eraill a gollent olwg ar ansawdd a natur yr argraffiadau, yn amledd y ffurf oedd arnynt, a'r graddau oedd iddynt.

Mewn rhai amgylchiadau, torai rhai allan dan y tywalltiadau adfywiol hyn, i lamu a neidio gan lawenydd. Dygwyddai hyn, tybygid, yn bur fynych yn mysg y Methodistiaid boreaf, pan y profent ryw ymweliadau neillduol. Parai hyn i rywrai eu dynodi wrth yr enw neidwyr neu jumpers, fel pe buasai neidio yn rhan hanfodol o'u crefydd, neu yn erthygl bwysig yn eu credo. Diau fod y dull hwn o ddynodi gor-lawenydd y meddwl, yn ymddangos mor anghydweddol â difrifwch ac â threfn addoliad, fel y parodd i elynion crefydd gablu ar lawer pryd; a pharodd wrthdarawiad yn meddyliau llawer o ddynion da a duwiol. Nid ein hamcan, ar hyn o bryd, a fydd cyfiawnhau na chondemnio, yr arferiad o neidio dan amgylchiadau o'r fath y cyfeirir atynt. Nid yw mewn un modd yn nodwedd y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru. Peth achlysurol a damweiniol hollol ydyw. Fe allai fod yr arferiad wedi dygwydd yn mysg yr enwad hwn yn amlach nag yn mhlith enwadau eraill, drwy ddamwain. Nid yw yn cael ei ystyried yn hanfodol i aelodaeth yn y cyfundeb, ac nid ystyriwyd ef felly erioed, a llawer llai yr edrychir arno yn hanfodol i grefydd. Fe ŵyr pawb fod gan y natur ddynol lawer dull i ddatgan ei theimladau, pa un bynag ai teimladau o ofid, ai o gysur, fyddant. Pan y llenwir y meddwl â gorfoledd mawr dros ben, dysgwylir iddo roddi rhyw argraffiadau ar y corff. Ymddengys yn gyntaf oll, fe allai, yn y llygad, ac yn ngwedd y wyneb; tyr allan hefyd mewn curo dwylaw, mewn llefau gorfoleddus, ac nid anfynych mewn neidio. Gwyddom i'r gŵr cloff a gawsai iachad gwyrthiol trwy'r apostol Pedr, fyned i mewn i'r deml, "gan rodio, a neidio, a moli Duw;" ac i Dafydd, ar ddygiad yr arch i ddinas Dafydd, "neidio a llemmain o flaen yr Arglwydd." Nid ydym, er hyn, yn edrych ar y neidio ond dull o roddi arllwysiad, a datganiad o lawenydd a gorfoledd y galon. A phaham y beîir ar y dull yma o ddangos gorfoledd, mwy na rhyw ddull arall? Mae gan y rhai a fyddant yn beio ar y dull hwn, ond odid, rhyw ddull eu hunain i roddi arllwysiad i'w teimladau. os ydynt yn berffaith rydd oddiwrth bob dull o'r fath, hyny sydd am na feddant y teimladau cryfion a brofwyd gan eraill; neu am nad yw yr argraffiadau a brofir ddim dwysach nag y gallant eu cuddio yn llwyr, neu eu rheoli yn drefnus. Hwyrach y gellir troi yr edliwiad yn ol gyda llawn cymaint o briodoldeb, a chyhuddo y rhai a'u beiant, o ddideimladrwydd stoicaidd, wrth wrando hyfryd-lais yr efengyl. Ond hyny ni wnawn; ar yr un pryd, ni a honwn yn eofn, pe byddai y gweithrediadau yn llawer dwysach, y rhoddai y Sais neu yr Ellmyn ddatganiad o ryw fath i deimladau cryfion ei galon. Ac nid gwaeth genym ni yn mha ddull y gwneid y dadganiad hwnw.

Y mae yn angenrheidiol, pa fodd bynag, i sicrhau i'r darllenydd, oddieithr