Yr hyn a gymerid le. Gofynwyd iddo beth a feddyliai am yr adfywiad? I hyn yr atebodd, "Yr wyf yn hoffi y tân, ond nid y mwg." A hyn, mi dybygaf, y cydsyniem oll; hoffi y tân yr ydym, ac nid y mwg; eto, ni a ymgymodwn â'r mwg er mwyn y tân. A pha fodd y ceir y tân heb y mwg? Nid er mwyn y llefain, y neidio, na'r llewygu, yr ydym yn hoffi y diwygiadau, ond er mwyn y deffro a wneir ar gydwybodau dynion, y darostwng a wneir ar eu cyndynrwydd, a'r tanio a wneir ar eu serchiadau tuag at bethau ysbrydol. Ac os bydd Ysbryd yr Arglwydd yn gweithredu y pethau hyn mewn modd mor nerthol a chyffrous, fel ag i beri cynhyrfiadau corfforol (ac anserchog, fe allai, ynddynt eu hunain), pwy ydym ni i allu lluddias Duw?
Mewn rhai enghreifftiau, fe fydd yr argyhoeddiad mor ddwys nes gwaelu y corff; ac fe gyfarfyddir â hyn weithiau yn Lloegr, yn gystal ag yn Nghymru; eto, nid gwaeledd y corff ydyw y peth dymunol, ond argyhoeddiad y meddwl; a llawen y dylid bod, er i'r corff waelu, am i'r meddwl gael ei oleuo. Weithiau, darllenwn am ddynion yn mhob gwlad yn cael eu dwyn i'r fath deimlad o'u cyflwr euog a thruenus, nes eu dyrysu ymron yn eu synwyrau, a'u gwneyd am dymhor yn ddiflas o'u gorchwylion cyfreithlawn; eto, gwell hyny nag iddynt fyned rhagddynt yn ddiofal a chyndyn yn eu ffyrdd drygionus. Y tân a hoffwn, ac nid y mwg; ond ni a gyd-ddygwn â'r mwg, i raddau mawr, os ceir y tân.
Nid i ni y perthyn barnu yn mha fodd, ac i ba raddau, y mae i'r Duw mawr gyfranu ei fendithion. Gwyddom y bydd phiol ei bobl weithiau yn llawn. Dywedai y Salmydd, "Iraist fy mhen ag olew, fy phiol sydd lawn," neu fy phiol sydd yn rhedeg drosodd. Fe dywallt ei fendith, fel na byddo digon o le i'w derbyn, Mal. iii, 10. Fe fydd dysgyblion Iesu Grist yn fynych yn poeni ar hyd y nos, heb ddal dim; ond fe ddygwydd, er hyny, pan y bwriant y rhwyd ar air eu Harglwydd, y llenwir hi i'r fath raddau, na allant ei thynu i'r lan, ac y bydd y rhwyd ei hun yn rhy wan i ddal yr hyn a gynwysir ynddi. Gormod fyddai i neb o honom haeru na ddyry Duw un amser i'w bobl y fath amlygiadau o hono ei hun, ag a anmharai raddau ar eu natur. Ie, gormod fyddai gwadu na chollodd rhai eu hiechyd, ac i synwyrau rhai ddyrysu, am eu hoes, gan rym gweithrediadau yr Ysbryd. Cynifer gwaith y bu Daniel yn llesg ac yn glaf, ie, a ffun einioes ymron a'i golli, gan rym y gweledigaethau a gawsai. Yn yr olwg a gafodd Ioan ar Fab y dyn, efe a syrthiodd wrth ei draed ef fel marw. Myn rhai mai yn y modd yma y lladdwyd Moses, sef trwy i Dduw roddi iddo y fath amlygiadau o hono ei hun, nes iddo fod yn glaf o gariad, a marw o wir lawenydd. Clywais am y Parch. Evan Richardson, Caernarfon, y clywid ef gan ryw un, pan oedd y gŵr duwiol yn dal cymdeithas â'i Dduw yn ei ystafell, yn llefain, "O Arglwydd Dduw, paid a fy lladd i, y mae fy llestr gwan i ymron ymddryllio," a hyn gan y llawenydd a roddid iddo. Gwyddom yn dda, fod gweledigaethau Daniel a Ioan, yn wahanol i ddim a ellir eto eu dysgwyl; eithr nid hyny yw y mater y dadleuwn yn awr drosto, ond hyn,—mai nid anghyson â doethineb a daioni Duw ydyw rhoddi, dan amgylchiadau neill-