Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/280

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

etyb pob ymddangosiad ein dysgwyliad. Mae llawer mwy o flodau ar y pren yn y gwanwyn, nag sydd o afalau yn y cynauaf; ar yr un pryd, da genym weled y blodau, am y gwyddom lle na fyddo blodau, ni all y bydd ffrwyth. Eto, pan fyddo deffroadau byrbwyll a chyffredinol yn dygwydd yn mhlith yr anwybodus, a'r rhai anghydnabyddus â'r ysgrythyr, dylynir hwy, i raddau mwy neu lai, â gwallau, ac â sel heb wybodaeth. Y mae y gelyn yn gwylio i hau efrau yn mhlith y gwenith. Fel hyn y bu erioed. Felly yr oedd yn nyddiau'r apostolion. Rhwystrau a ddaw, ac am y sawl sydd yn gwylio am rywbeth i gecru a thramgwyddo o'i herwydd, fe roddir iddynt, yn marn gyfiawn Duw, yr hyn y maent yn ei geisio. Ond y rhai a garant Dduw a fyddant lawen am y daioni gwirioneddol a wneir, a medrant roddi cyfrif am y cymysgedd achlysurol, oddiwrth agwedd bresenol ein natur."

Gofidus gan yr ysgrifenydd yw, nas gall gyfarfod â chofrestriad rheolaidd o'r diwygiadau a fu yn mhlith y Methodistiaid, o bryd i bryd; tebygol ydyw, na wnaed yr un cofrestriad o'r fath; ac fe allai y buasai yn anhawdd gwneuthur un, pe ceisiasid, am fod yr adfywiadau yn ymweled â rhan o wlad yn awr, ac â rhan arall drachefn, ac yn cael eu cyfyngu i gylch bychan weithiau, am dymhor byr, yna yn tori allan drachefn, a rhyw ranau o'r dywysogaeth yn cael eu cynysgaethu â'r cawodydd bendithion yn wastadol ymron. Pa fodd bynag, gallwn nodi yn neillduol rai adegau arbenig; megys, y diwygiad cyntaf yn Llangeitho, yn y fl. 1739; drachefn, y diwygiad mawr, fel y'i gelwid, yr hwn a roddwyd tua'r fl. 1762, ac a fu yn foddion arbenig i iachâu effeithiau gwenwynig yr ymraniad. Ymweliad arbenig arall a gafwyd yn fuan ar ol cychwyniad yr ysgolion Sabbothol, sef tua'r fl. 1791. Un arall nodedig a fu yn 1817. Fe fu adfywiadau mwy neu lai eang a grymus rhwng yr adegau uchod, ac hefyd ar ol y fl. 1817, mewn llawer parth o'r wlad, y rhai, ond odid, a ddeuant dan sylw yn hanes y gwahanol siroedd. Bernir hefyd fod tua dwy fil o aelodau eglwysig wedi eu chwanegu yn sir Feirionydd tua'r fl. 1840. Ac nid teg a fyddai gadael allan yr adfywiadau a fu yn Lleyn, ac yn Mon, yn y blynyddoedd 1818 a 9. Anmhosibl ydyw dweyd ac afreidiol hefyd—pa niferi a chwanegwyd yn y modd hwn at eglwysi y Methodistiaid, yn ystod y can mlynedd diweddaf. Diau genyf fod y nifer yn llawer iawn o filoedd. Ac er fod ffrwyth yr adfywiadau hyn yn Nghymru wedi bod yn dra helaeth, eto nid cymaint felly ag y dywedir fod rhai diwygiadau yn America. Darllenwn fod chwanegiad o saith mil ar hugain wedi cymeryd lle at ryw eglwysi yn yr Unol Daleithiau yn ystod un flwyddyn, sef o fis Medi, 1822, i'r un amser y flwyddyn ganlynol; a dywedir am danynt fod "sail dda i obeithio am eu cywirdeb." Ni chyfyngid yr adfywiadau hyn o fewn terfynau plaid neu enwad crefyddol, eithr profid graddau mwy neu lai o honynt gan yr holl bleidiau a gyfrifid yn "cyfatal y Pen." Yn nhalaeth Georgia, hysbysir fod, yn yr adfywiad a fu yno, un eglwys yn cynwys 18 cant o bobl heb fod yn wynion eu croen, ac eglwys arall yn cynwys 8 cant. Ie, fod y diwygiad wedi cyrhaedd y lle annhebycaf o bob man, sef y carcharau.