Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/282

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddymuno eu cael, a gweddio am eu hymddangosiad; torai y wawr weithiau megys y gwna'r un naturiol yn y gwledydd poethion, ymron ar unwaith; bryd arall, rhoddai arwyddion o'i hymddangosiad fel gwyll y boreu, yn flaenorol, gan argoeli yn mlaenllaw ei ddyfodiad. Darllenwn am ddiwygiad yn y fl. 1792 yn Lleyn, sir Gaernarfon, iddo ddyfod i'r golwg gyntaf yn ddisymwth iawn. Yr oedd dydd o ympryd cyffredinol wedi ei nodi gan y llywodraeth, yn achos y rhyfel mae'n debyg; wedi rhybuddio y Sabboth o'r blaen, daeth i'r capel at 9 o'r gloch y bore, gant neu ddau o bobl, ac arferwyd y moddion o weddi a mawl. Am 11 o'r gloch, aeth y gynulleidfa i lan y plwyf, a dychwelodd y bobl, yn enwedig y rhan ieuangaf o honi, o'r addoliad yn anystyriol ddigon. Yn y capel y prydnawn, yr oedd y gynull eidfa yn llawer mwy; ac wedi i rywun ddarllen pennod, a hyny yn lled drwsgl, ac eraill weddio, rhoddwyd allan bennill o hymn, yn dybenu,—

"Gallu'r nefoedd, &c.,
Tyr'd i waered, dyma'r awr."

Ac ar roddiad y geiriau hyn allan, aeth gyda hwy y fath nerth, nes torodd bloedd fawr gyffredinol gan y gynulleidfa megys un gŵr, nes oedd yr addoldy yn adsain. Yr oedd gwedd pawb wedi newid, a dagrau yn llifo oddiar bob wyneb. Disgynodd hyn ar y bobl megys goleuni mellten, a rhuad ofnadwy y daran, heb fod neb yn y fan yn dysgwyl y fath ymweliad. Yn y dull disymwth hwn y dechreuodd y diwygiad mawr y tymhor hwnw. Gallai rhywrai ddysgwyl, gan iddo ddechreu yn y fath fodd byrbwyll ac annysgwyliadwy, mai byr a fyddai ei barhad, a siomedig ei ganlyniadau; ond nid felly y bu yn yr amgylchiad hwn. Fe fu mor hynod yn ei effeithiau ag ydoedd yn ei gychwyniad. Ennillwyd yr holl fro i ymarfer â moddion gras; disgynodd sobrwydd a phwyll ar y dynion gwylltaf a mwyaf difeddwl; diwygiwyd oferwyr o ran eu moesau; chwanegwyd lluaws mawr o bob oedran a rhyw at nifer y dysgyblion; adnewyddwyd ysbrydoedd y crefyddwyr llesg, a gwnaed Seion yn llawen-fam plant.

Cawn enghraifft arall o ddiwygiad yn tori allan megys heb ei ddysgwyl, a thrwy foddion anarferol. Mae llawer sydd yn awr yn fyw yn cofio y byddai un John Ellis, gynt o Lanrwst, awdwr amrywiol anthemau, rhyw ddeugain mlynedd yn ol yn arfer a myned yma a thraw lle y gelwid am dano, i ddysgu i'r bobl ganu. Ar y pryd, y mae yn ddiau fod y rhan hon o'r addoliad yn isel iawn; ac nid oes amheuaeth na fu llafur y gŵr uchod yn foddion, mewn cysylltiad ag eraill, i ddwyn gradd o ddiwylliant ar ganu cynulleidfaol. Yr oedd y gŵr hwn wedi cael ei wahodd i Ysbytty Ifan, lle yn perthyn i gyfarfod misol sir Feirionydd, ac ufyddhaodd i'r gais. Aeth yno a'i lyfrau gydag ef, a chyfarwyddai yn ddiwyd y bobl ieuainc i ganu yn rheolaidd a threfnus. Yr oedd yn perthyn i'r lle ar y pryd dri o flaenoriaid oedranus, yn ddynion ffyddlawn a duwiol; ond yr oedd un o honynt yn fwy tanbaid ei ysbryd, ac yn fwy gwyllt ei dymher, na'r lleill, ond ill tri oedd yn ddynion gwladaidd a diaddurn iawn. Yr oedd y gwŷr da hyn eisoes wedi llygadu ar y dull newydd o ganu, ac wedi teimlo yn chwith fod y nôd-lyfr yn cael ei