Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/284

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyddodd amgylchiad dyeithr iawn, ie, dyeithr iawn yn Meddgelert, sef gŵr yn ymofyn am aelodaeth eglwysig, a hyny ag arwyddion lled diymwad fod Ysbryd Duw wedi gosod ei law arno. Tua dechreu yr haf, daeth dau neu dri eraill, yr hyn a barai sirioldeb mawr iawn i'r gymdeithas fechan, wedi bod dros gynifer o flynyddau yn ddiepil. Yr oedd y weinidogaeth, erbyn hyn, yn fwy ei hawch, ac ar rai achlysuron yn cerdded gyda nerth mawr. Yr oedd cydwybodau amryw yn cael eu harcholli, a'r gwrandawyr yn lluosogi, ac ymddangosai arwyddion fel pe dysgwylid pethau mwy.

Yn Awst canlynol, yn y cwm uwchlaw y pentref, disgynodd awelon cryfion ar y gynulleidfa dan weinidogaeth rhyw frawd, a thorodd llawer allan i wylo a llefain megys am eu bywyd; a rhai i orfoleddu am eu cipio megys pentewynion o'r tân. Dechreuasant, bellach, heidio i'r gymdeithas eglwysig, dan argraffiadau dwysion iawn. Disgynodd syndod ar yr holl ardal. Chwanegwyd at yr eglwys tua 20 o rifedi. Yr oedd y weinidogaeth gyhoeddus yn nerthol iawn, a'r effeithiau yn cyrhaedd ymron bawb a fyddai yn dyfod i wrando. Deuai rhai yno yn anystyriol i weled ac i wawdio, a syrthiai aml un o'r cyfryw dan rym y gwirionedd. Wrth rybuddio y plant yn yr ysgol Sabbothol, disgynodd arnynt wylo a gwaeddi, fel rhai ar ddarfod am danynt; a sylwyd ar y pryd, nad oedd dim ond un yn yr ysgol heb fod yn profi y dylanwadau. Bellach, nid oedd nemawr o siarad yn y gymydogaeth ond am bethau crefyddol. Yr oedd hen bobl 70 oed a mwy, o dymherau cryfion, ac wedi hir gynefino â gwrando, yn toddi yn llymaid gan nerth y gwirionedd; a sicrheid fod yr effeithiau mor rymus a chyffredinol, nad oedd un tŷ o fewn y plwyf oll, nad oedd addoliad teuluaidd ynddo; a chyn yr ymweliad hwn, nid oedd ond deg neu ugain yn addoli Duw yn deuluaidd yn yr holl blwyf.

Fe barhaodd yr adfywiad hwn am dair neu bedair blynedd yn neillduol o rymus a siriol. Ond wedi i'r cyffro mawr laesu, ac i'r awelon cryfion dawelu, troes rhai eu cefnau, fel y gallesid dysgwyl; eto, safodd y lluaws yn ffyddlawn i'w proffes, gan brofi trwy dynerwch eu cydwybodau, a'u cynydd dylynol, fod y gwaith a wnaed arnynt yn argoeli bys Duw.

Hwyrach y dysgwylir i air gael ei ddweyd yn y fan yma, neu o leiaf cyn gadael y diwygiadau, yn nghylch y "canu yn yr awyr," ag yr hònir ei glywed gan lawer, naill ai o flaen, neu yn gyfamserol, â'r diwygiadau hyn. Ni chafodd yr ysgrifenydd erioed y fantais o glywed y fath beth ei hun, a gormod peth ganddo ydyw datgan yn gryf a fu y fath beth ai peidio. Y mae yn beth hynod, fod cynifer o ddynion a gredir genym ar bob peth arall, yn datgan yn gadarnhaol iddynt glywed y fath ganu; a hyny mewn amgylchiadau nad oedd modd fod dim canu arall, heblaw y dywedir fod y canu hwn yn wahanol iawn i bob canu a glywsid erioed ganddynt. Nid rhaid, meddant, ond ei glywed, i beri argyhoeddiad yn mynwes y gwrandawr, mai peroriaeth uwch-daearol ydyw. Ei fod fel swn mil o filoedd a myrdd myrddiynau o bêr-leisiau, nid yn rhyw dôn benodol, ond yn rhyw gydseinedd o'r fath hyfrytaf, y fath na chlywir byth yn mysg dynion, a'r fath hefyd ag a fyddo yn cylymu y neb a'i clywo megys wrth y lle y bydd yn sefyll arno, gan ei