effaith dda ar galonau eu gwrandawyr. Nid oedd un argoel fod neb, yn un lle, yn cael eu deffroi trwy eu gweinidogaeth, i weled eu cyflwr."
Oddiar yr olwg alaethus yma ar ansawdd ysbrydol y wlad, a gwedd anobeithiol athrawon y bobl, enynodd yn mynwes Harris ryw awyddfryd angherddol i dderchafu ei lais uwchben y trigolion diofal a difraw. "Dechreuais (meddai) osod i fyny addoliad teuluaidd yn nhŷ fy mam, ar foreuau Suliau, cyn pryd eglwys, ac arferai amryw o'r cymydogion ddyfod i̇'m gwrando yn darllen y llithoedd, a'r Salmau, &c. Y prydnawn a dreuliwn gydag ychydig o gyfeillion y cyffyrddasai yr Arglwydd â'u calonau, i weled a theimlo eu perygl. Yr oedd tân Duw yn llosgi yn fy enaid, fel nas gallwn orphwys ddydd na nos, heb wneuthur rhywbeth dros fy Nuw a'm Hiachawdwr. Nis gallwn gyda boddlonrwydd roddi hûn i'm hamrantau, os na fyddwn wedi gwneyd rhyw wasanaeth er gogoniant iddo ef, ar hyd y dydd. Pan y byddwn ar fy mhen fy hun, myfi a lwyr ymroddwn i ddarllen, gweddio, neu ysgrifenu; a pharhawn hefyd i fyned yn mlaen i gynghori y bobl druain, y rhai a ymgynullent i'm gwrando bob prydnawn Sabboth. Yr oeddwn, erbyn hyn, yn dechreu myned yn ddiareb gan y bobl ar hyd y wlad. Ond nid oedd arnaf ofn fy ngwaradwyddo gan neb, er bod y rhai a garent dywyllwch yn fwy na goleuni, yn bygwth peryglu fy mywyd; eto, nid oedd hyny yn fy siglo; eithr yn mlaen yr aethum yn gysurus, heb feddwl fawr y pryd hyny, y byddai raid i mi ymddangos yn fwy cyhoeddus."
Dyma ddechreuad gyrfa gyhoeddus Howel Harris! Dyma hefyd ddechreuad llafur lleŷgaidd yn Nghymru! a dyma, mewn rhan, ddechreuad Methodistiaeth Cymru! Gwelir pa gan leied o ddyn a welid yn hyn oll. Nid oedd yma yr un cynllun blaenorol iddo weithredu wrtho; nid oedd yma yr un cyfaill i roi cyfarwyddyd iddo; ac nid oedd yma yr un enwad o bobl grefyddol yn taenu ei aden drosto. Nid oedd ef ei hun yn bwriadu byth i fod yn bregethwr cyhoeddus, ac eto ni fu nemawr neb yn Nghymru yn fwy felly. Yr oedd ei ymlyniad yn fawr wrth eglwys Loegr, ac eto dynoethai hi yn ddidrugaredd. Nid oedd dim yn mhellach oddiwrth ei fwriad nag ymneillduaeth; ac eto rhoes gychwyniad i gyfundeb o ymneillduwyr, a bu yn foddion yn y canlyniad i wneuthur Cymru yn un o'r gwledydd mwyaf ymueillduol yn y byd. Trwy amgylchiadau na ellid eu rhagweled yn mlaen llaw, na'u goruwch-lywodraethu i ddybenion gwahanol ar eu hymddangosiad, y bu hyn oll. Y mae yn rhaid addef fod gan ragluniaeth y nef law fawr yn y cwbl; a pho leiaf a welwn o ymyriad dynion, neu o ddylanwad rhyw gyfundrefn ddynol, mwyaf oll a welwn ni o Dduw, ac amlycaf oll ydoedd cyfryngiad rhagluniaeth y Goruchaf.
Yr oedd y gwŷr enwog eraill, a anrhydeddwyd i fod yn dadau Methodistiaeth yn gysylltiedig â Harris, yn gwbl ddarostyngedig i arweiniad amgylchiadau, am y dull a'r modd y llafurient. Ni fynai cyfansoddiad eglwys Loegr mo'u dull ansefydlog ac anghanonaidd hwy, ac ni fynent hwythau mo ddull arferol ymneillduwyr. Nid oedd yr un gyfundrefn adnabyddus, gan hyny, yn eu cydnabod nac yn eu hamddiffyn. Nid oedd ganddynt hwy eu hunain