Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/304

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob peth o werth, os byddai raid, er mwyn cyrhaedd eu hamcan. Nid oeddynt yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr ganddynt eu heinioes, am y lledaenent y wybodaeth am Dduw yn y wlad. Yr oedd yr awyddfryd hwn yn yfed eu hysbryd. Ysid hwy gan sel tŷ Dduw. Gallasai Howel Harris gymeryd ei fyd yn esmwyth; yr oedd yn ŵr o feddiannau, ac o deulu cyfrifol. Gallasai ennill gwên ei gyfeillion, ac ymgodi i urddas ac anrhydedd yn y wlad. Gan ei fod yn meddu ar gyneddfau cryfion, a moddion bydol, beth a allasai luddias ei ddyrchafiad i fri a gwychder? Eithr efe a ddewisodd oddef adfyd gyda phobl Dduw; efe a farnodd yn fwy golud ddirmyg Crist, na dim gogoniant a addawid iddo gan y byd. Gwrthododd Rowlands bob cynygiad a wnaed iddo, gan ei ymroddiad i wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab ef, yn y llwybr y rhoddwyd iddo gynifer o brofion fod Duw yn ei lwyddo. Trwy ymddyosg oddiwrth yr hyn a elwid yn Fethodistiaeth, y gallasai y Peirch. William Williams, Howel Davies, a P. Williams, gael gwên eu huwchraddiaid, a mwynhau esmwythyd a chyfoeth. Ond yr oedd mantell y Pen-proffwyd wedi cael ei bwrw arnynt hwy, ac ni allent lai na'i ganlyn, pa mor anhawdd bynag. Y mae y meddwl yn synu wrth ddarllen hanes teithiau y gwŷr hyn;—wrth graffu ar faint eu llafur, dyfnder eu darostyngiad, amledd eu peryglon, a chwerwder eu dyoddefaint; a pharod ydym i benderfynu, eu bod naill ai yn wallgofiaid dibris o honynt eu hunain, neu yn wŷr dan ryw ysbrydoliad neillduol oddiwrth Dduw. Ond gwallgof ni allent fod; nid ymadroddion gwallgof a fyddai ganddynt, ac nid gweithredoedd gwallgof a gyflawnent. Yr oedd eu geiriau yn rymus a synwyrol, yn ennill cydwybodau dynion diragfarn; ac yr oedd eu tymherau yn fwynaidd a gostyngedig, a'u hamcan yn eglur a dihoced. Duw, yn ddiau, a gyffyrddasai â'u calonau, ac a'u hanfonasai drosto ef ei hun, i ddeffroi gwlad o ddynion cysglyd a difraw, yn nghylch pethau mawrion y "byd a ddaw."

Heblaw y gwŷr urddasol a enwyd, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, ac a gaent y blaen yn mhob man, yr oedd nifer o ddynion bychain iawn eu dawn, ac isel eu hamgylchiadau, yn cyfodi yma ac acw ar hyd y gwledydd, o'r un ysbryd yn gymhwys a'r gwŷr enwog uchod. Os dywed neb mai chwant i awdurdod, ac awydd i enw a chlod, oedd yn cynhyrfu y naill, ni ellir dywedyd hyny am y lleill. Nid oedd eu sefyllfa na'u talentau y fath ag a roddai iddynt sail i ddysgwyl dim o'r fath; a phe buasent mor ffol a dysgwyl hefyd, rhaid y buasent yn troi yn ol wedi gweled y gwrthwyneb: ond yn mlaen yr aethant, heb droi ar dde nac ar aswy, a phrofi trwy eu gostyngeiddrwydd a'u cywirdeb, mai "cariad Crist oedd yn eu cymhell."

Yn y dyddiau boreuol hyny," medd yr hen batriarch John Evans, "nid oedd ond ychydig yn gwrando; a'r rhan fwyaf o honynt oeddynt ddynion syml, a than wasgfa am eu cyflyrau eu hunain, a chyflyrau eu cymydogion hefyd. Yr oedd yn byw yma (sef y Bala) ŵr gyda'r hynotaf a welais erioed yn y byd. Cyn i'r Arglwydd yn ei drugaredd ymweled ag ef, yr oedd yn ddyn hynod o wagsaw a masweddgar; ond wedi hyny, cyfnewidiad neillduol a gymerodd le yn holl agwedd ei ysbryd a'i fucheddiad. Ni welodd neb ef