Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/311

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wraig ar y ffordd, neu ar y buarth, y byddai mor anfoesgar a'i hysgwyddo a'i chilgwthio mewn anwydau drwg; a bu yr hen wraig yn glaf am ysbaid, gan y blinder a'r sarhad a wnaethid fel hyn iddi.

Yn mhen rhyw enyd, daeth amser cymeriad y tir i fyny, a brys anghyffredin oedd ar y gŵr mawr i gael gwared o'r crefyddwr. Gosododd y tir i dyddynwr arall, ac ysgrifenwyd ammodau y cymeriad; ond cyn iddo anfon rhybudd i Owain i ymadael, cymerwyd ef i garchar am ddyled; felly, analluogwyd ef i'w yru ymaith y flwyddyn hono; a chyn pen y flwyddyn. ganlynol, gwerthwyd y tir i ŵr arall, a gwell oedd gan hwnw gael Owain Siôn yn ddeiliad y tyddyn na neb arall. Trwy yr holl helyntion hyn, a'r rhai a ganlynasant, yr oedd gafael gref gan Owain yn achos Mab Duw, ac ni phallai yn ei gynaliaeth iddo, ac felly y parhaodd hyd ddiwedd ei oes. Cynysgaethwyd yntau â llawer o dangnefedd yr efengyl yn ei fynwes, ac â nodded rhagluniaeth yn ei amgylchiadau, fel na fu arno eisieu dim o angenrheidiau y bywyd hwn; ond daioni a thrugaredd a'i canlynodd ef holl ddyddiau ei fywyd.

Cof ydyw gan yr ysgrifenydd ymddyddan â hen ŵr yn sir Feirionydd, er's mwy na deng mlynedd ar hugain yn ol, yr hwn a ddaethai at grefydd mewn gwth o oedran, a hyny mewn adeg ag yr oedd y crefyddwyr yn ychydig o rif, ac yn dlodion eu sefyllfa. Yr oedd yr hen ŵr wedi byw i gryn oedran cyn priodi, ac yn ofalus wedi crynhoi ychydig o gyfoeth o'i amgylch. Wedi y tro a ddaeth ar ei feddwl am ei achos ysbrydol, cafodd ar ei galon wneuthur a allai dros enw y Cyfryngwr. Nid oedd ganddo nemawr o ddawn, ac ni feddai wybodaeth helaeth; ond yr oedd ganddo dŷ, ac ychydig o foddion; ac os na allai lesâu dynion trwy ei ddawn, gwelai fantais i wneuthur ychydig mewn llwybr arall, sef trwy letya y pregethwyr yn ei dŷ, a gofalu am ymgeledd angenrheidiol iddynt hwy a'u hanifeiliaid, pan ar eu teithiau. Yn mhen rhyw ysbaid o amser ar ol gwneuthur hyn, daeth ato rai o'i hen gyfeillion cyfeillion ei anwybodaeth a'i ddiofalwch crefyddol; a chan broffesu eu gofal am dano, a'u pryder rhag i ddim anghysurus gyfarfod ag ef, hwy a'i rhybuddiasant yn garedig, na dderbyniai i'w dŷ y dynion dyeithr a gyniweirient y wlad, na wyddai neb yn iawn o ba le, nac i ba ddyben. "Ymgroeswch rhagddynt, hen ffrind," ebent hwy, "oblegid hwy a ysant y cwbl sydd genych; difâant eich meddiannau cyn i chwi wybod; a drwg iawn fydd genym eich gweled, wedi eich holl ofal a'ch helbul, yn syrthio eto i dlodi yn eich hen ddyddiau. Os oes genych barch i'ch enw da, a gofal am eich teulu a'ch amgylchiadau, ymogelwch, ar bob cyfrif, ac i'r graddau mwyaf, rhag y locustiaid difâol hyn."

"Diolch i chwi," ebe yr hen ŵr, "am eich caredigrwydd a'ch gofal am danaf; ond y mae genyf air i'w ddywedyd, yr hwn, gobeithiaf, a gedwch i chwi eich hunain yn gyfrinachol. Yna, yn lled ddystaw, efe a ddywedodd, "Yr wyf rai ugeiniau gwell arnaf yn awr na phan y derbyniais y dynion hyn i fy nhŷ."

Ar hyn syrthiodd eu hwynebau, ac yn ddystaw a siomedig llithrasant