Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/313

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y credadyn ynddynt. Yr un ydyw duwioldeb o ran ei natur yn mhawb, dan yr Hen Destament a'r Newydd, yn y dysgybl ieuanc a'r hen, ar ddechreuad ac ar ddiwedd crefydd, yn amser diwygiadau a than erlidigaethau, ag ydyw ar dymhorau eraill; eto, pwy sydd na ŵyr ei bod yn burach, yn loywach, ac yn rymusach, dan rai amgylchiadau, na than amgylchiadau eraill? Pan gydmherir proffeswyr yr oes hon â phroffeswyr oes neu oesoedd blaenorol, rhaid ystyried yr amgylchiadau yr oedd y rhai hyn, a'r rhai acw, ynddynt. Rhaid ystyried amgylchiadau saint yr Hen Destament, wrth eu cydmharu â saint y Testament Newydd: felly, yr un modd, wrth gydmharu crefyddwyr cyntefig y Methodistiaid, â chrefyddwyr yr oes hon. Yr oedd eu hamgylchiadau hwy, yn ddiau, yn gwahaniaethu llawer oddiwrth yr eiddom ni. Galwyd llawer o honynt yn ddisymwth, megys yn nghanol eu drwgarferion;—profasant argyhoeddiadau llymion iawn ar y naill law, a llawenydd mawr ar y llaw arall;-amgylchynid hwy ar bob llaw gan dywyllwch dudew yr oes, ac arferion gorwael ofergoeledd;—darostyngid hwy yn barhaus i waradwyddiadau lawer, a blinderau dibaid yn achos eu crefydd. Nid ydyw y cyfryw amgylchiadau yn dynodi yr oes hon ond i raddau bychan. Yn bresenol, mae y rhan fwyaf o'r crefyddwyr wedi eu magu yn ngeiriau y ffydd, -yn ddynion na redasant erioed gyda dyhirwyr yr oes i'r unrhyw ormod rhysedd,—dynion wedi eu hennill yn raddol, trwy ymrysoniadau mwy neu lai cyson a grymus,-dynion, lawer o honynt, yn had y saint, ac wedi eu cadw heb werthu eu genedigaeth-fraint. Nid yw crefyddwyr yr oes hon yn ddarostyngedig i warth chwaith o herwydd eu crefydd: mae eu cydgrefyddwyr hefyd yn lluosocach eu rhif, ac yn amlach eu breintiau, nag oeddynt gynt. Mewn gair, mae y wedd allanol ar bethau yn gwbl wahanol, er fod yr egwyddorion tumewnol o angenrheidrwydd yn aros yr un.

Dibynai llwyddiant a chynydd y cyfundeb, pa fodd bynag, i raddau helaeth. iawn ar ysbryd rhagorol yr hen bobl. Yr oedd eu difrifwch dwys, eu rhodiad diargyhoedd, eu hamynedd dan eu croesau, a'u hawydd angherddol i lesâu eraill, yn peri argraffiadau ar gydwybodau y sawl a'u hadwaenent, mai nid dynion cyffredin oeddynt. Canmolent eu hunain wrth bob cydwybod dynion yn ngolwg Duw. Cymhellent eraill i ddywedyd, "Awn gyda chwi, canys gwelsom fod Duw gyda chwi." Yr oedd eu llafur dibaid a dirodres gyda dynion, a'u gweddiau taerion gyda Duw trostynt, yn eu gwneuthur yn goncwerwyr ar lawer ysbryd anmhlygedig a rhagfarnllyd.

Mae agos yn anhygoel yr effeithiau a ganlynasant lafur a ffyddlondeb rhai o'r hen bobl ag sydd bellach yn gorphwys oddiwrth eu llafur. Llawer mwy teilwng ydynt o goffadwriaeth oesol, na'r gwŷr rhwysgfawr hyny "y mae yr holl ddaear yn rhyfeddu ar eu hol hwy," y rhai a oresgynasant deyrnasoedd, a thrwy rym y cleddyf a barasant i'r ddaear alaru, gan anghyfaneddu trefydd o'u preswylwyr, a gwneuthur y gwragedd yn weddwon, a'r plant yn amddifaid, wrth y cannoedd o filoedd. Anrhydeddus yn ngolwg yr lesu ydyw coffâu gweithredoedd ffydd, a llafur cariad, ei ddylynwyr, pryd y tynghedir gorchestion annynol y "gwŷr enwog gynt" i ebargofiant oesol. Am y wraig