Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/335

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gymerth doethineb a gras Duw i ddwyn yn mlaen y diwygiad yn ngwahanol barthau y wlad. Canfyddir fod canlyniadau mawrion yn dylyn dygwyddiadau bychain yn fynych, a bod amgylchiadau damweiniol gyda ni, yn ddolenau angenrheidiol a phwysig yn nghadwen bwriadau y Goruchaf Gallesid tybied mai damwain ddibwys oedd fod y pydew y bwriwyd Joseph iddo, heb ddwfr ynddo ar y pryd; ac mai damwain hefyd oedd i'r Midianiaid ddyfod heibio yn yr adeg; eto yr oeddynt yn gynifer o begynau angenrheidiol i olwynion rhagluniaeth droi arnynt, a gwasanaethu amcanion grasol Duw tuag at ein byd ni.

Y mae o fy mlaen yn bresenol ysgrif sydd yn arddangosiad bywiog o'r egwyddorion uchod. Yr oedd gŵr o'r enw William Pugh yn myned unwaith i arwain pregethwr, gŵr o'r Deheudir, o Gwm-glan-llafar, yn agos i'r Bala, i'r Bont-uchel. Yr oedd hyn, tybygid, yn yr amser boreuol hyny ar Fethodistiaeth, pan nad oedd lle a dderbyniai bregethu rhwng y Bala a'r Bontuchel. Fel yr oedd y ddau ŵr yn myned ar hyd y ffordd rhwng y Bettws a Melin-y-wig, yr oedd eu hymddyddan wedi disgyn ar y rhan hòno o hanes Dafydd, lle y dywedir i dri o gedyrn y brenin ruthro trwy wersyll y Philistiaid, a chyrchu iddo ddwfr o bydew Bethlehem, gan i'r brenin flysio ei gael; a thra yr oedd y ddau ŵr yn ymddyddan am y pethau hyn, yr oedd rhyw ŵr am y clawdd, neu y gwrych, â hwy, yn gwrando arnynt; a phan y daethent yn mhen enyd at lidiart, rhoes ei bwys arno, ac a ofynodd, "Gyda'ch cenad, wŷr da, ai eleni y bu y peth y soniech am dano ar hyd y ffordd?" Daeth y gŵr atynt i'r ffordd, a chyd-gerddodd â hwynt dros enyd o amser. Rhoes hyn fantais i'r pregethwr i egluro iddo yr hanes ysgrythyrol yn mhellach. Ar hyn, ebe y gŵr :

"Yr wyf yn deall mai Cradociaid ydych."

"Rhoddwch yr enw a fynoch arnom," ebe y pregethwr. "Mi fyddaf fi yn ceisio rhoi gair o gynghor i'm cyd-bechaduriaid."

"I ba le yr ydych yn myned y ffordd hon?" gofynai y gŵr.

"I ardal y Bont-uchel," oedd yr ateb.

"A fyddwch chwi yn dychwelyd yn ol y ffordd hon? a pha bryd?" "Byddwn," ebent hwythau, "yn dychwelyd ddydd Llun nesaf."

"A roddech chwi," gan gyfarch y pregethwr, "air o gynghor yn fy nhŷ i ar eich dychweliad?"

"Gwnaf yn ewyllysgar iawn," ebe yntau. Wedi cytuno yn nghylch amser y bregeth, a chyfarch gwell i'w gilydd, ymadawsant.

Ar ddychweliad y gŵr dyeithr i dŷ yr amaethwr ar yr amser penodedig, cafodd amryw o gymydogion wedi ymgasglu, fel y gynulleidfa yn nhŷ Cornelius, i wrando beth a draddodid wrthynt. Bendithiwyd y tro i ŵr y tŷ; cymerodd arno broffes o grefydd, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd, a chyfarfu, fel y gwnai y proffeswyr gan mwyaf y pryd hwnw, a llawer o waradwydd a blinder. Yn fuan ar ol y tro uchod, cafodd rybudd i ymadael â'i dyddyn, a symudodd i Lanarmon-dyffryn-Ceiriog; a bu yn ddiwyd iawn yn cyrchu i'r Bala, ddeunaw milldir o ffordd, i foddion gras am flynyddau.