Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/348

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwy ddeng mlynedd yn ol), a'r effeithiau yr un, mewn gradd mwy neu lai. Mae nifer y dysgawdwyr hefyd yn cynyddu neu yn lleihau, yn ol y moddion a fyddo genyf. Y cwbl o'r elw sydd yn dyfod i mi oddiwrth gapel yr wyf yn gweinyddu ynddo, yr wyf yn ei roddi yn llwyr at eu cynal hwynt, tra yr wyf fy hun yn cael fy nghynal trwy ddiwydrwydd fy ngwraig. Yr wyf (yn bresenol) yn talu i bobl ysgolfeistr ddeuddeg punt yn y flwyddyn. Y maent yn aros am hanner blwyddyn neu naw mis yn yr un fan, ac yna yn cael eu symud i barth arall.

"Yr ydym yn cael fod naw mis yn llawn ddigon i ddysgu i'n plant ddarllen eu Beiblau yn dda yn yr iaith Gymraeg. Yr wyf fy hun yn ymweled â'ı ysgolion, ac yn eu holwyddori ar gyhoedd: yr wyf yn cael y boddlonrwydd annhraethol o weled agwedd gyffredinol y wlad wedi newid yn dra rhyfedd; gweled yr anialwch yn blodeuo fel y rhosyn, a'r sychdir yn ffrydiau dyfroedd. Trwy yr ysgolion, a phregethiad yr efengyl, y mae gwybodaeth grefyddol yn ymdaenu yn mhob man. O fy enaid, bendithia yr Arglwydd!—"

Dygodd yr anturiaeth hon, er lleied yr ymddangosai ar ei chychwyniad,. lafur dirfawr ar y gŵr duwiol. Bu raid iddo ef ei hun ddysgu rhai o'r ysgolfeistriaid cyntaf, a hwythau a addysgent rai eraill. Disgynodd y baich o ymofyn cynaliaeth i'r athrawon hyn ar Mr. Charles, a rhaid fod hyny yn dwyn arno ohebiaeth dirfawr. Yr oedd arolygiad yr holl ysgolion yn disgyn ymron yn llwyr arno ef ei hun; ond hyn oll a wnaeth yn siriol, heb lygad at un wobr, ond tystiolaeth ei gydwybod, a boddlonrwydd ei Dduw. Cafodd galondid i fyned yn mlaen, trwy y parodrwydd a ganfyddai i gyfranu at yr amcan yn y rhai oedd oludog yn y byd hwn. Derbyniodd unwaith £50 oddiwrth ryw un anadnabyddus iddo, yr hwn a ysgrifenai ei enw, G. T. G. — derbyniad yr hyn a gydnabyddwyd yn gyhoedd gan Mr. Charles, yn yr Eurgrawn Efengylaidd. Yr oedd y gwaith ei hun yn hyfrydwch iddo, a chafodd yr hyfrydwch chwanegol hefyd, o weled fod ei lafur yn ateb dybenion goruchel, er llesâu eneidiau lawer.

Nid oes amheuaeth nad oedd Mr. Charles yn dra chydnabyddus ag ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, gan ei fod wedi ei eni a'i fagu yn ei ymyl; a diamheu hefyd ei fod wedi gweled llawer o'u heffeithiau daionus mewn llawer parth o'r wlad; ond yr oedd yr ysgolion hyny wedi syrthio i'r dim erbyn hyn, fel y crybwyllasom o'r blaen, yr hyn, fe ddichon, a fu yn achlysur arbenig o sefydliad rhai eraill dan arolygiad Mr. Charles ei hun. Heblaw yr anhawsdra a gyfarfyddai i gael ysgolfeistriaid, a moddion cynaliaeth iddynt, yr oedd anhawsder arall yn ei gyfarfod, sef diffyg llyfrau gwyddorol neu gychwynol. Yr oedd ysgolion Mr. Jones yn dra diffygiol yn hyn. Cyfansoddodd Mr. Charles dri llyfryn, heblaw dau holwyddoreg, oll wedi eu cymhwyso at yr amgylchiad, ac i wasanaethu yr un amcan. Mawr oedd ei ofal i gael athrawon cymhwys. Yr oeddynt oll yn ddynion tlodion, gan na allai roddi ond ychydig o gyflog iddynt; a chyda hyny, yr oedd yn barnu y gallai y cyfryw rai gyd-ddwyn yn haws a dull y tlodion o fyw. Ymofynai am ddynion o fedrusrwydd cymedrol, ond yn anad dim yn