Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/354

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bychan, o'i fod wedi ei eni yn yr un flwyddyn a hi, yn anrhydedd iddo ; parod oedd megys i ymffrostio o hyn, yr hyn beth oedd yn arddangosiad o'r parch anarferol ag oedd yn ei fynwes i'r sefydliad, a'r boddlonrwydd a fwynhäai mewn treulio ac ymdreulio yn ei wasanaeth.

Meddai y Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin, am dano, -" Nid oedd mo'i fath yn dyfod atom, am annog, cyfarwyddo, a holi ysgolion Sabbothol. Dangosai serchogrwydd diffuant tuag atom, a chyd-ddygai à ni yn ein tywyllwch a'n hanwybodaeth; (oblegid nid oedd yr ysgol Sul yr amser hwn w ond braidd ddechreu yn y wlad,) gyda llawer o diriondeb y cyd-ddygai â ni, fel plant yr ysgol Sabbothol; a ninau a'i carem ef agos fel ein heneidiau ein hunain."

Nid oes i ni feddwl wrth y sylwadau uchod, fod Mr. Richard wedi ei adael ei hunan i lafurio yn y gwaith hwn; mewn gwirionedd, yr oedd iddo lawer o gyd-gynorthwywyr. Yr oedd mintai fawr o bregethwyr, a swyddogion eglwysig eraill, ynghyd ag athrawon ffyddlawn ac effro, yn cydweithredu ag ef; eto, er hyn, fe ymddengys ei fod ef wedi derbyn cymhwysder arbenig at hyn o orchwyl, a'i fod yn treulio rhan fawr o'i amser at hyn; cymaint felly, nes yr edrychid ar y rhan yma o'r gwaith yn perthyn yn arbenig iddo ef.[1]

Y gŵr arall a'i hynododd ei hun yn neillduol gyda'r ysgolion Sabbothol, oedd y Parch. Owen Jones, Gelli, sir Drefaldwyn. Mab ydoedd i John ac Elinor Jones, Towyn, a ganwyd ef yn y fl. 1787. Rhoddwyd ef yn yr ysgol pan ydoedd tua 7 neu 8 oed, gydag athraw o'r enw Mr. John Jones, Peny-parc, yn agos i Dowyn, yr hwn oedd yn ŵr crefyddol, call, a dihoced. Ymddengys wrth yr hanes a ddyry ei feistr am dano, ei fod yn un nodedig am ddysgu pan yn fachgen ieuanc; fod ganddo gof cryf, a'i fod yn rhagori ar ei gyd-ysgolorion mewn dysgu egwyddorion crefyddol, yr hyn oedd yn waith cryn ddyeithr yn y fro y pryd hwnw. Yr oedd yn barod yn wastad, ar gais ei feistr, i ddyfod i wrando pregethau, ac ni chai na chwareu na chyfeillion ei lesteirio; ar yr un pryd, nid oedd un prawf eto ei fod wedi ei wir ddychwelyd at Dduw. Wedi bod am rai blynyddau dan addysg Mr. Jones, anfonwyd ef gan ei rieni i ysgol yn Lloegr. Ar ol ei ddychweliad, archwyd arno gan ŵr oedd yn cadw ysgol rad yn Nhowyn, gymeryd ei le ef gyda'r ysgol dros ychydig ddyddiau, gan fod angenrheidrwydd yn galw ar yr athraw i fyned dros ychydig amser oddicartref. Cydsyniodd yntau â'r gais, a chadwodd yr ysgol mewn dull bywiog, gan egwyddori y plant ar ddiwedd yr ysgol, yn ol cynllun eu hen athraw. Rhoes yr amgylchiad bychan hwn flas iddo ei hun yn y gwaith, a phrawf i eraill o'i gymhwysder ato. Ond nid oedd iddo aros ond ychydig amser yn ei fro enedigol; ond anfonwyd ef yn mhen rhyw enyd i Aberystwyth i ddysgu y gelfyddyd o gyfrwywr.

Yn ystod yr amser yr oedd yn aros yn Aberystwyth i ddysgu ei grefft, ymwelodd hen ŵr o'r enw Mr. Williams â'r dref, yr hwn oedd yn weinidog

  1. Gwel helaethach hanes am dano yn mlaen dan sir Aberteifi.