ar y truan hwn.' Yr oedd hyn tua'r amser yr anfonwyd am danaf gan yr esgob. Ysgrifenodd o hono ei hun at Mr. Pitt, heb yngan gair am fy Methodistiaeth, i'r perwyl yma :
'Mae ein hen ffrind Berridge yn meddu personoliaeth, yn swydd Bedford, a deallwyf ei fod yn cael peth blinder oddiwrth ryw squire yn ei blwyf, yr hwn sydd wedi achwyn arno wrth yr esgob, a dywedir y caiff ei droi allan o'i le: dymunwn i chwi roi attalfa ar hyn.' Dyn ieuanc oedd Mr. Pitt y pryd hwnw; a chan nad oedd yn dewis anfon at yr esgob ei hun, gosododd hyny ar ryw bendefig, i'r hwn yr oedd yr esgob yn ddyledus am ei ddyrchafiad. Yn mhen ychydig ddyddiau, fe gyfarfu y pendefig â'r esgob yn Llundain.
'Fy arglwydd,' ebe'r pendefig, 'hysbysir i mi fod genych yn eich esgobaeth ddynan bach pur onest o'r enw Berridge, a'i fod yn cael cam ar law rhyw foneddwr yn ei blwyf, yr hwn a gais ei droi ef allan o'i bersonoliaeth. Byddaf yn rhwymedig i chwi, fy arglwydd, am beidio rhoi clust i'r boneddwr hwnw, ac na oddefwch i'r dyn gonest gael sarhad.' Synodd yr esgob at y gais, ac ni allai ddychymygu pa fodd y bu hyn; ond ni allai lai na phlygu i gais y pendefig; a chefais inau lonyddwch byth wed'yn i aros yn fy lle, a chyda fy ngwaith."
Ond ni ddygwyddodd fod gan Daniel Rowlands y fath gyfaill i ddadlu drosto gyda'r esgob; am hyny, bu gorfod iddo droi allan. Bernir mai tua'r fl. 1763 y bu hyn. Yn hanes ei fywyd gan y Peirch. J. Owen ac E. Morgan, fe ddywedir mai yn Llanddewi-brefi yr oedd Rowlands yn gweinidogaethu ar y pryd y daeth y swyddogion ato, gyda gorchymyn oddiwrth yr esgob, i roddi taw arno; a'u bod wedi myned i mewn i'r eglwys tra yr oedd Rowlands yn darllen y gweddiau, ac iddo gael ei fwrw allan cyn pregethu; ond iddo, ar gais taer y gynulleidfa, bregethu iddynt oddiallan i'r eglwys, neu oddiar fur y fynwent.
Ond fe ysgrifena gŵr cyfrifol ac oedranus ataf, yr hwn sydd yn awr yn un o flaenoriaid yr eglwys Fethodistaidd yn Llangeitho, gan ddatgan nad yw yr hanes uchod ddim yn gywir. Swm yr ysgrif sydd fel hyn: "Yn Nadolig y fl. 1763 y trowyd ef allan gan swyddogion yr esgob. Tybiwyf fod camgymeriad yn hanes ei fywyd gan y Parch. J. Owen, pan y dywed mai o Landdewi-brefi y trowyd ef allan. Canys y mae yr hanesion a gefais i yn sicrhau mai yn Llangeitho a Nantcwnlle yr oedd ef yn gweinidogaethu ar y pryd. Bum yn ymddyddan å hen ŵr o'r enw John Jenkins, yr hwn, pan yn hogyn tua 15 mlwydd oed, a aethai gyda'i rieni i Nantcwnlle i wrando Rowlands ar ryw Sabboth; ac i ddau swyddog oddiwrth yr esgob ddyfod yno, i droi Rowlands allan, a bod Rowlands wedi dechreu yr addoliad cyn eu dyfod. Attaliodd y bobl y gwŷr wrth y drws, nes iddo orphen pregethu; yna aeth rhyw un ato i hysbysu iddo ddyfodiad y gwŷr, a'u dyben. Ar hyn, disgynodd Rowlands yn ddioed o'r pulpud, a daeth atynt i'r drws, gan ofyn eu neges. Hwythau a fynegasant iddo. 'O,' ebe Rowlands, 'gallasai ei arglwyddiaeth gymeryd llai o boen arno, na'ch danfon chwi yma; o'm