weithiau ymgynull mewn lleoedd dirgel, rhag ofn eu gelynion: nid am fod yr egwyddorion a ddalient yn ddrwg, ond am fod llaw eu gorthrymwyr yn dost arnynt. Digon i'r werin anwybodus a nwydwyllt, oedd rhoddi enwau drwg arnynt, na cyffroid y lluaws i ymosod arnynt yn y fan, er na wyddent yn y byd am ba beth, nac o ba herwydd. Felly yr oedd hi gynt yn Ephesus; "rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall; canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a'r rhan fwyaf ni wyddent o herwydd pa beth y daethent ynghyd," Act. xix. 32. Ni wyddai y Cymry yn gyffredin pa beth a feddylid wrth bengrwn, ond yn unig ei fod yn air yn cael ei ddefnyddio i osod allan ddyn peryglus, yr hwn y byddai dda ei ymlid o'r wlad, ac o'r byd hefyd, os byddai modd. "Ai pengrwn wyt ti?" gofynai rhyw erlidiwr i bregethwr. "Yn wir (ebe y pregethwr, gan dynu ei het, a dangos ei ben, yr hwn oedd yn wyn gan henaint), nis gwn a ydyw fy mhen i yn grynach na phen rhywun arall, edrychwch chwi." Dyhuddodd y digrifwch diniwed hwn lid yr erlidiwr, a safodd yn blaid i'r pregethwr yn erbyn ei gymdeithion digofus.
Rhoddid pob peth yn erbyn y Cristionogion gynt; "edrychid arnynt (medd Tertullian) fel gelynion dynolryw." Hònid mai hwy oedd yr achos o holl drallodion y wlad, ac mai o'u herwydd hwy yr oedd fod dialedd yn erbyn amherodraeth Rhufain mor fynych. Os byddai dinas dan warchae, ac i ryw anffawd ddygwydd o fewn neu o faes, dywedid yn y fan mai y Cristionogion oedd yr achos. Os dygwyddai afon Tiber lifo dros ei glanau, neu i'r afon Nilus beidio (er ffrwytho y dolydd): os byddai arwydd drwg yn y nef, neu os crynai y ddaear; os na ddygai y maes ei ffrwyth, neu os lladdai yr haint y preswylwyr, gwaeddente un galon, "Ymaith a'r Cristionogion i'r llewod." Sicrhäai y paganiaid gyda haerllugrwydd diblygu, fod y byd yn waeth o lawer iawn, er pan anwyd Cristionogaeth ynddo. Ar yr un sylfeini yn gymhwys y gellid profi yr haeriadau hyn yn erbyn y Cristionogion, ag y gellid profi yn erbyn y Methodistiaid, eu bod fel y cyfryw yn euog o'r troseddau erchyll a roddid yn eu herbyn hwy. Gyda'r un cyfiawnder y gallai Nero gyhuddo y Cristionogion o osod Rhufain ar dân, ag y gallai gwrthwynebwyr y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru gyhuddo y crefyddwyr o gynllwyn yn erbyn y llywodraeth. Yr un mor briodol hefyd oedd y cyhuddiad o losgach a godineb yn eu cyfarfodydd eglwysig, y rhai a alwyd y weddi dywyll, i ddynodi y brynti a wneid ynddynt. Nid oes un ateb cymhwysach i'w roddi i'r cyfryw gableddau, na dweyd mai y gwŷr a haerent y fath bethau a fuasai y rhai cyntaf i ymuno â'r fath gyfarfodydd, pe y credasent mai i'r cyfryw ddybenion y cedwid hwy: prawf teg ydyw nad oedd y dyhiriaid a haerent y fath gabl-chwedlau am bobl ddiniweid, yn meddwl yr hyn a ddywedent, am yr ymgadwent hwy eu hunain mor ofalus oddiwrth y cyfarfodydd. Ond ofer yn awr ydyw treulio amser, a sarhau synwyr y darllenydd, i brofi peth y mae pob dyn yn Nghymru yn ei wybod eisoes. Diamheu y rhoddid aden i'r cyfryw chwedlau drwg a chelwyddog, i'r dyben i attal lledaeniad y diwygiad, a rhybuddio y trigolion i gadw yn mheli oddiwrth y pla; ond yn y gwrthwyneb y bu lawer tro. Deuai y gwirionedd