Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/384

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan trwy ryw foddion neu gilydd; ymddangosai y rhai cyhuddedig ar ol hyny yn fwy hawddgar, a'r cyhuddwyr yn fwy gwrthun: ennillai diniweidrwydd serch a chydwybod ddynion diragfarn; a disgynai y gwarth ar y celwyddwyr maleisus.

Pan oedd y gymdeithasfa gyntaf ar gael ei chynal yn Beaumaris yn Môn, yr ydym yn cael fod yr hen lord Buckley, Baron-hill, gerllaw y dref hòno, mewn pryder mawr o'r achos; ac ar ddyfodiad goruchwyliwr iddo o'r enw Mr. Richard Jones, Trewyn, i'w wydd, ryw ddiwrnod cyn y cyfarfod dysgwyliedig, ymddangosai y pendefig yn dra chyffrous, a chyfarchodd Mr. Jones ef fel arferol :

"Pa fodd yr ydych, fy arglwydd?"

"Yr ydwyf yn dra digalon," ebe yntau, "o herwydd fod y penau cryniaid yn myned i gadw cyfarfod yn Beaumaris; a'u harfer ydyw cynal y cyfryw gyfarfodydd i gynllunio rhyw ddrygau, megys codi terfysgoedd yn y wlad, ac ymosodiad ar y llywodraeth, ac nid oes un math o sicrwydd genyf na fydd Baron-hill ar dân cyn bore yfory."

"Na, fy arglwydd (ebe Mr. Jones), ni wna'r bobl hyn ddrwg yn y byd; y bobl oreu yn y byd ydynt; mae y cyfarfod yn llawer mwy dibergl na phe buasai ball yn cael ei gynal yn y dref."

"Nid felly ychwaith (ebe yr hen bendefig), pobl yr eglwys ydyw y bobl oreu."

"Ie," ebe Mr. Jones, " ond y mae y bobl yma yn bur debyg i'r eglwys, ac yn bur barchus o'i herthyglau a'i gweddiau, er y byddant weithiau yn dweyd yn llym yn erbyn rhyw fath o weinidogion annheilwng sydd ynddi, y rhai sydd yn taenu chwedlau cas a disail am danynt. Coeliwch fi, my lord, na ddaw drwg yn y byd oddiwrth y cyfarfod."

Addefa y gŵr boneddig ei fod heb gysgu nosweithiau, gan ofn y bobl a elwid wrtho yn benau cryniaid, trwy y chwedlau a draddodid i'w glustiau gan wŷr a ddylasent wybod yn well. Bu geiriau ei oruchwyliwr o gysur mawr i'r hen bendefig pryderus, gan y sicrheid iddo na ddymchwelid mo'r llywodraeth, ac na roddid mo Baron-hill ar dân, gan Fethodistiaid Môn ! Nid hawdd a fuasai genyf goelio yr hanesyn hwn, oni bai fy mod yn adnabod y gwŷr a'i mynegodd. Gwel y darllenydd trwy yr amgylchiad uchod, pa mor ddiwyd yr oedd rhyw ddynionach a gymerent arnynt wybod mwy na chyffredin, a dysgu y bobl i daenu cyhuddiadau celwyddog a phenchwiban am bobl gyfiawnach na hwy eu hunain. Ni allai fod hyn yn amgylchiad hen iawn ychwaith; ac nid oes amheuaeth nad trwy foddion o'r fath y gwenwynwyd meddyliau boneddwyr eraill, yn neillduol yn sir Feirionydd, fel ag i'w cyffroi hwy i wneuthur pethau y bu yn edifar ganddynt eu cyflawni yn ol llaw. Cafodd yr hen arg. Buckley weled mai gwir a ddywedasai ei oruchwyliwr wrtho; ac mai disail a fuasai ei holl ofnau, ac annheilwng o gred oedd y chwedlau a fynegasid iddo: yn y canlyniad, fe fu y pendefig clodwiw hwn yn serchog tuag at grefyddwyr tra y bu fyw.

Mewn rhyw amgylchiadau, defnyddiodd yr Arglwydd y chwedlau disail a