Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/387

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aenu crefydd; dirmygant bob dysgyblaeth awdurdodedig, rhuthrant i le gweinidog y plwyf, ymgynullant mewn lleoedd anmhriodol, ac ar amserau anghymhwys; maent yn cablu urddas mewn geiriau bustlaidd yn erbyn llywodraethwyr a bugeiliaid yr eglwys wladol, ac yn erbyn sefydliadau yn tueddu at harddwch, trefn, ac adeiladaeth, gan draethu nodiadau difriol ar ffurf o addoliad a gymeradwyir gan reswm a Beibl."

Mae yr ysgrifion chwerwon y cyfeiriwn atynt bellach ymron mewn tir anghof, a'u hawdwr er's llawer dydd wedi dystewi, fel mai afraid ydyw treulio amser yn hwy gyda'r naill na'r llall. Fe ysgrifenodd Mr. Charles o'r Bala, mewn undeb a Mr. Jones o Ddinbych, lyfryn bychan yn ateb i'r ddau gyntaf, mewn ffordd o amddiffyniad i'r trueiniaid ag oeddynt yn cael eu drwg-liwio mor echrydus a phe buasent yn perthyn i fôr-ladron Algiers, Sicarii Palestina, neu Thugiaid India. Nid ydym ar un cyfrif yn tybied fod yr egwyddorion a hònir gan yr awdwr uchod, am olyniad apostolaidd, ac effeithioldeb y sacramentau, wedi darfod eto, ïe, yn Nghymru. Mae'r amgylchiadau wedi newid llawer yn y wlad er y pryd hwnw, ac nid oes cymaint, hwyrach, o eofndra a haerllugrwydd yn awr ag a fu, o leiaf yn y dywysogaeth, i bregethu a chyhoeddi egwyddorion uchel-eglwysaidd; eto, nid ydynt wedi marw, ond mae y duedd a'r parodrwydd i roddi yr egwyddorion hyny mewn grym, trwy roddi taw ar bob pregethwr ymneillduol, a'u gosod oll dan deyrnged i'r grefydd wladol, yn parhau. Yr ydym yn gwir barchu dynion efengylaidd yn eglwys Loegr, fel y parchwn ddynion da yn mhob plaid o grefyddwyr yn mysg y rhai y ceir hwynt, nid am eu bod yn eglwyswyr, ond am eu bod yn dduwiol; nid oblegid eu bod yn perthyn i eglwys wladol, ond am eu bod yn perthyn i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd, Gwyddom yn dda fod yn ei chymundeb lawer o wyr enwog eu dysg, eu dawn, a'u defnyddioldeb, y rhai na raid i neb, i'r dyben i'w parchu, ond eu hadnabod; eto, nid olyniaeth apostolaidd, yn yr ystyr a roddir i'r ymadrodd yn y dyddiau hyn, a'u cymhwysodd i'r weinidogaeth, ond Ysbryd Duw; a hyny nid trwy arddodiad dwylaw yr esgob, gan eu bod, lawer o honynt, wedi derbyn y cymhwysder cyn i esgob osod ei ddwylaw arnynt erioed, a buasent yn meddu y cymhwysder goruchel hwnw, pe na roddasid dwylaw esgob arnynt byth.

Gwarthruddid y cynghorwyr, fel y'u gelwid, sef y pregethwyr hyny ag oeddynt heb urddau esgobawl, am eu rhyfyg yn cymeryd arnynt swydd bwysig yn afreolaidd, a gwrthwynebid y pregethwyr a gawsent urddau, am y troseddent ganonau; y gwir ydyw, yr oedd gelyniaeth yn y galon yn erbyn y gwirionedd: cysgu yr oeddynt, ac ni fynent eu deffro; yr oedd eu hanwybodaeth yn fawr, ac ni fynent i neb wybod hyny; yr oedd eu moesau yn llygredig, a ffyrnigent yn erbyn y rhai a'u dynoethent. Moddion cyffredin a ddefnyddid gan yr erlidwyr i ddwyn eu hamcan i ben, oedd aflonyddu ar y cyfarfod crefyddol. Gwneid hyny yn mhob dull ymron; weithiau trwy gyflogi dynion ofer, a'u meddwi, a'u hanfon i ganol y bobl i derfysgu, a gwawdio y pregethwr; weithiau trwy ddefnyddio rhyw offer trystfawr, megys