hellwr yn Llanor, yn byw yn gryno a chysurus, ac yn gyfaill mawr a'i feistr. Annogwyd hwn gan ei feistr i gyfansoddi Coeg-chwareu (Interlude), a darlunio ynddi brif bregethwyr Methodistiaid Cymru a Lloegr, sef Whitfield, Harris, ac amryw eraill, yn y modd mwyaf gwarthus ag a allai dawn a dyfais yr awdwr eu darlunio. Anfonwyd y gân i'r Amwythig i'w hargraffu; ac fel yr oedd y clochydd, ar ei ddychweliad adref o'r Amwythig, yn gorphwys mewn melin gerllaw y Bala, â'r gân argraffedig gydag ef, gofynwyd iddo gan rywrai ag oedd yn y lle, pa beth oedd ganddo yn ei ysgrepan? "Interlude," ebe yntau, "yn erbyn y Cradocs." "Y dystryw mawr," ebent hwythau, "pa beth a wnaethant hwy iti? Yn mha le y mae y rhaff? ni a'i crogwn ef yn y fan." Dysgwyliodd yn ddilai mai ei ganmol a wnaethent, ond yn lle hyny bygythient ei grogi. Nid oedd y dynion hyn ddim mwy cyfeillion i grefydd nag oedd yntau; eto, o ryw ddireidi, neu dan ddylanwad rhyw wŷn dyeithr a byrbwyll, bygythient ddial cam y diniweid; pa fodd bynag, syrthiodd arno arswyd am ei fywyd, a da iawn oedd cael dianc yn rhyw fodd o'u dwylaw. Cafodd y clochydd lawer o arian am y gân gableddus hon. Dygodd ei feistr ef un tro i gyfarfod oedd gan foneddigion, mewn palas a elwir Bodfel, yn agos i Bwllheli; a than guro ei gefn, a'i ddangos iddynt, dywedodd wrth y cwmni, "Gwelwch, foneddigion! dyma'r gŵr a wnaeth y gân." Ar hyn, cyfranwyd iddo yn y fan ddeg gini a deugain. Ond gwobr anghyfiawnder ydoedd; ennillwyd hi ar draul y diniweid, trwy anwiredd a thwyll; yr oedd ynddi gamddefnyddiad halogedig o dalentau gwych, a gwgodd Duw ar y tro. Yn raddol, fe oerodd serchogrwydd ei feistr tuag ato, yn fwy, mae'n debyg, oddiar ddrwg-dybiaeth ei fynwes ei hun, nag o herwydd un anffyddlondeb iddo yn y clochydd; a rhyw dro, pan yn rhodio yn y fynwent, rhuthrodd y canghellwr arno fel arth yn llawn cynddaredd, gan ei gyhuddo yn haerllug o geisio ei ladd trwy daflu y gloch ar ei gefn. Tybygid nad oedd un sail i'r fath ddrwg-dybiaeth, ond oedd yn nychymyg y canghellwr ei hun. Mor ansicr ac anwadal ydyw cyfeillgarwch gelynion Duw! Tuedd pechod ydyw ysgar a tharfu dynion oddiwrth eu gilydd: yr efengyl sydd yn eu cyd-gysylltu, ac yn eu crynhoi ynghyd. Ni all fod dim gwir gyfeillgarwch rhwng gweithredwyr anwiredd â'u gilydd. Y rhai a fo yn anffyddlawn i Dduw, a fyddant hefyd yn anffyddlawn i'w gilydd. Felly y bu rhwng y canghellwr a'i was. Wedi bod o'r blaen yn ymgynghreirio â'u gilydd yn erbyn y diniweid, wele y ddau yn awr yn llawn gelyniaeth yn dechreu cnoi a thraflyncu eu gilydd. Methodd y clochydd a dyoddef rhuthriad diachos y canghellwr arno, a rhoes yntau arllwysiad gorwyllt i'w nwydau cyffrous yn ol. Y canlyniad a fu ei ddiswyddo. Ar ol hyn, aeth y clochydd i ymgyfreithio â rhyw un, a thrwy ryw amryfusedd collodd y cynghaws; a chyda colli y gyfraith, collodd lawer o'i arian; dechreuodd gwobr ei anghyfiawnder ehedeg ymaith; a syrthiodd yn raddol i dlodi ac afiechyd, a bu farw yn druenus.
Yr oedd rhwysg a rhi y canghellwr hefyd yn dynesu tua therfyn. Gwelsom pa mor ffyrnig yr ymddygai tuag at Howel Harris, a William Pritchard;