Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/390

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor greulon yr ymddygai at bawb y cai le i feddwl eu bod yn bleidiol i'r penau cryniaid. Ond y mae yn rhaid i'r môr gael ei derfyn, ac i weddill cynddaredd yr annuwiol gael ei wahardd. Mae gan Dduw ei amser a'i offer i osod terfyn i rwysg ei elynion, ac i ddyoddefaint ei blant. "Adeiladodd y canghellwr felin wynt, a chyn iddo gael dim budd oddiwrthi, daeth rhyw gorwynt dychrynllyd, ac a'i drylliodd yn chwilfriw yn ddisymwth. Adeiladwyd llong iddo gerllaw Pwllheli, ond methwyd ei chael i'r môr mewn modd yn y byd tra y bu ef byw; ond ar ol ei farw, cafwyd hi i'r môr fel llestr arall."[1] Dichon i'r dyfynion hyn godi gwên ar wyneb llawer un, gan dybied mai ofergoeledd digymysg ydyw priodoli y cyfryw anffodion i farn Duw; fod yr un ddamwain yn dygwydd i bawb, ac na ŵyr neb gariad neu gas wrth yr hyn oll sydd o'i flaen. Addefwn yn rhwydd fod perygl mawri ni gyfeiliorni i ofergoeledd penchwiban ar y naill law, ac i annuwiaeth dideimlad ar y llaw arall. Y perygl ydyw i ni farnu dygwyddiadau neu orchwyliaethau rhagluniaeth wrthynt eu hunain, ac nid mewn cysylltiad ag egwyddorion y Beibl. Pan y cymerir gorchwyliaethau amser mewn cysylltiad ag egwyddorion datguddiad, fe'n cynorthwyir ni, i fesur mawr, i ochel y ddwy graig, sef rhyfyg y dyn didduw, ac amryfusedd y dyn ofergoelus. Yn ngoleu datguddiad, nyni a welwn y dichon i'r un fath oruchwyliaeth fod yn brawf ar ysbryd dyn,—fod yn gerydd ar blentyn Duw, —neu ynte yn farn ar elyn Duw; ac wrth oleuni yr ysgrythyrau y mae i ni farnu pa un. Gwyddom yn ddiau fod Duw yn profi ysbrydoedd dynion trwy ryw oruchwyliaethau o wên neu ŵg yn ei ragluniaeth; gwyddom hefyd, yn ddiau, ei fod yn ceryddu ei blant trwy oruchwyliaethau o'r fath, ac hefyd yn barnu ei elynion. Nid yw yr oruchwyliaeth ynddi ei hun yn amlygiad digonol o ddyben ei hanfoniad, pa un ai er prawf, er cerydd, neu o farn; ond fe adnabyddir hyny mewn cysylltiad ag amlygiadau y Beibl. Pan gyfarfyddo gŵr a rhwystrau lawer oddiwrth ddynion, neu a thrallodion lawer mewn rhagluniaeth, yn ei ffordd o wneuthur daioni, a gwasanaethu Duw, hawdd ydyw iddo ddeall mai goruchwyliaeth i'w brofi ydyw; ond os bydd cydwybodolrwydd yn ei fynwes, wrth gyfarfod â thrallodion, fod ynddo ef waeleddau a cholliadau, dylai edrych ar y trallodion hyny yn gerydd arno, neu yn farn, yn ol yr effaith a gânt arno: os cerydd, y mae yn cael ei wella a'i iachâu, ac yn bendithio Duw am danynt; os barn, y mae yn caledu danynt, ac yn cael ei ddinystrio ganddynt. Nid oes wahaniaeth trwy ba foddion y dygir yr anffodion arno; trwy ddamweiniau disymwth a dyeithr, ai trwy foddion cyffredin a graddol; nid yw llaw Duw ddim yn llai yn eu cynyrchu, na'i ewyllys ef yn llai yn cael ei amlygu. Ond pan y myn yr Arglwydd i'r oruchwyliaeth effeithio ar eraill mewn ffordd o rybudd, rhaid iddi fod mewn rhyw ddull hynod, onide ni ddeallir ei lais. Weithiau fe fydd yn hawdd canfod cyfiawnder barnol Duw ar ei elynion, pan y byddant yn medi ffrwyth naturiol eu ffyrdd pechadurus, mewn trallodion amgylchiadol, neu gystuddiau corff, neu gyfyngder

  1. "Drych yr Amseroedd," tudal. 81.(tud 53 yn fersiwn Wicidestun)