foneddigion a annogent y werin i aflonyddu, fel na chawn lefaru, pryd yr oedd pregethu ar fy nghalon; rhoddaswn unpeth a feddwn am gael pregethu iddynt." Ni oedd y pregethwr ar y pryd ond dyn ieuanc tua 25 oed, ac yn awr wedi ei amgylchu â dynion tebycach i ellyllon ar y pryd, na dim arall. Sychedai yntau yn fawr yn ei galon am ryw gyfleusdra i hysbysu iddynt "gynghor Duw," ond nid oedd eto un olwg y caniateid iddo agoryả ei enau; ac os meiddial wneuthur felly, y tynai yn ei ben y llu mileinig o'i amgylch. "O'r diwedd," meddai yr hen ŵr, "daeth un ataf, yr hwn a ystyrid yn flaenor pob camp, ac yn ymladdwr pena'r dref, ac a ddywedodd, Beth, fy machgen, a wyt ti am bregethu ?"
"Ydwyf," ebe yntau, "da lawn fyddai genyf gael llonyddwch am enyd amser i lefaru ychydig."
"Wel, myn d——1," ebe y paffiwr, a'r pastwn mawr yn ei law, "llonyddwch a gei."
Ar hyn esgynodd i ben gorsin, a llefodd fel udgorn nes adsain y lle, a chan godi y pastwn yn fygythiol yn uwch na'i ben, gwaeddodd, "Ho! hist! y mae y bachgen yma yn meddwl pregethu yma yrwan; a phwy bynag a'i haflonydda, nac a wna un math o derfysg i'w rwystro, dyma fi yn dweyd, myn d——1, dyma ei feistr," gan ddangos y pastwn. Ar hyn daeth i lawr, a dywedodd wrth John Davies, "Dos i fyny bellach, fachgen, mi edrycha' i am chwareu teg i ti." Felly y gwnaeth; ac meddai John Davies, Mi a bregethais gyda rhwyddineb mawr."
Cyfarfu John Davies â thro arall tua dechreuad i weinidogaeth, yn yr hwn y lledodd rhagluniaeth ei haden drosto, gan roddi drws agored iddo i bregethu yr efengyl, yn groes i'w ddysgwyliad ei hun, ac i fwriad cyntefig y gwrthwynebwyr. Daeth ar ryw Sabboth i dref Fflint, yn mhell cyn bod yno un capel, a chyn bod yno nemawr un yn adnabod ac yn caru yr efengyl. Nid oedd chwaith air da i breswylwyr y dref hòno, y pryd hwnw, am eu moesgarwch a'u hynawsedd. Yr oedd Mr. Ellis, o'r Wyddgrug, wedi bod yno o'r blaen, a chafodd lonyddwch gweddol i bregethu, wedi i'r gwrthwynebwyr ddeall fod ganddo drwydded. Ond yr oedd John Davies, heb drwydded; ac wedi i'w gyfeillion ddeall hyn, ac ofni am y canlyniad, os efe a anturiai bregethu, aethant at ŵr boneddig o gyfreithiwr, yr hwn a adwaenid fel un pleidiol i'r Methodistiaid, ac wedi arfer eu gwrando ar dymhorau; a hysbysasant iddo yr amgylchiad, gan erchi arno gymeryd eu plaid. Aeth Mr. Williams (oblegid dyna oedd ei enw.) gyda hwy; ac erbyn dyfod i'r fan, yr oedd yno haid fawr o erlidwyr yn gynulledig, a chyda hwynt yr oedd cyfreithiwr a hedd-geidwad. "Pan gyrhaeddasom y lle (meddai hen ŵr ag oedd yno ar y pryd), gwnaeth yr erlidwyr gais i gymhell yr hedd-geidwad i ymaflyd yn y pregethwr, ond ni wnai, am mai dyn o dymher lonydd ydoedd." Gofynodd un o honom i John Davies, a âi ef i'r carchar os byddai raid "Af," ebe yntau, "yn union, os cymerant afael ynof." Ond ni phrysurent i ymaflyd ynddo, rhag ofn, fe allai, gosod eu hunain yn ngafael y gyfraith, yn enwedig gan y gwelent Mr. Williams gyda hwy."