Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/394

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar hyn cyfarchodd Mr. Williams y gŵr a flaenorai y terfysgwyr, gan ddweyd, Cymerwch y gŵr, a rhoddwch ef yn ngharchar; gan ei bod yn Sabboth, nid â neb o honom i geisio eich lluddias; ond yfory chwi gewch fyned ato i gadw cwmpeini iddo." Gwylltiodd y gŵr ar hyn, gan roddi y mawr lŵ, a dywedyd nad ai ef ddim yao."

"A oes gan y pregethwr drwydded?" gofynai y cyfreithiwr ag oedd yn mhlith yr erlidwyr.

Nid i chwi y perthyn gofyn y cwestiwn," ebe Mr. Williams, "ond i ustus heddwch, ac am hyny nid ydym yn rhwym i'ch ateb."

Ar hyn, wele floedd fawr allan gan yr erlidwyr, fod eu cyfreithiwr hwy wedi colli y dydd, ac y rhoddid caniatâd i'r pregethwr bregethu yn y man a fynai o'r dref, ond iddo fyned encyd oddiwrth dŷ y person.

Wel, ynte," ebe Mr. Williams wrth yr un a flaenorai ar y fintai, gan eich bod yn caniatâu iddo fyned i'r lle a fynai, ni a ddeuwn i'ch parlawr chwi, oblegid dyna y lle goreu y gwn i am dano yn y dref."

Yna, gyda llwon lawer, ac mewn digter mawr, gwrthodwyd hyn, a chafodd Mr Williams le i edliw iddo nad oedd ŵr at ei air. Ar hyn, gofynai cyfreithiwr yr erlidwyr, a ái y pregethwr at y dafarn a elwid y Swan? Ac os âi yno, y deuent oll i'w wrando. Felly y cytunwyd; daeth y fintai erlidgar i wrando y bregeth, a buant yn eithaf llonydd hyd ei diwedd, ac wrth ymadael, gofynent pa bryd y deuai y gŵr yno drachefn; a dywedent, "pa bryd bynag y daw, ni a ddeuwn i wrando arno." " Yn ddiau cynddaredd gŵr a'th folianna di; gweddill cynddaredd a waherddi."

Dygwyddai weithiau yn lled anffodus i erlidwyr. Cymerent eu harwain bob amser wrth nwyd, ac nid wrth farn; a chan faint eu gorphwyllder i faeddu y penau cryniaid, syrthient weithiau i'w rhwyd eu hunain. Hyrddid hwy gan y fath frys i ddisgyn ar eu hysglyfaeth, fel na chymerent bwyll bob amser i adnabod eu gwrthddrych; a thrwy hyny disgynai arnynt hwy eu hunain yr anfri a'r sarhad a fwriadasent i eraill. Dywed awdwr "Drych yr Amseroedd," fod amgylchiad o'r fath yma wedi dygwydd yn rhyw dref yn Nghymru, "Yr oedd rhyw wr wedi addaw dyfod yno i bregethu, ac aeth y gair ar led am ei ddyfodiad. Ymgasglodd torf o oferwyr y dref, yn llawn o sel erlidigaethus, i ddysgwyl am dano. Yn y cyfamser, daeth gŵr boneddig mawr ar ymdaith i'r dref, a dygwyddodd fod gan y gŵr gadach (funen) wedi ei rwymo am ei ben, o herwydd rhyw afiechyd, mae'n debygol. Barnodd y dorf yn ddiamheuol mai hwnw oedd y pregethwr, oblegid y byddai amryw o'r pregethwyr y dyddiau hyny yn gwisgo cadachau am eu penau; a thyna y nôd a fyddai gan lawer ar bregethwyr. Pa fodd bynag, rhuthrasant ar y gŵr boneddig, gan ei luchio a'i guro, a'i faeddu yn ddidrugaredd; ac yntau wedi synu, ac ofni am ei fywyd, yn methu gwybod na deall pa beth oedd ar y gwallgofiaid. Nid oedd wiw iddo waeddi, Gosteg, arnynt, mwy nag ar dònau y môr; ond dylynasant ef nes iddo gael tafarn, neu ryw le i ddianc oddiar eu ffordd. Bu arswyd a dychryn mawr arnynt, pan wybuant pa fath ŵr a driniwyd ganddynt mor atgas; ac nid wyf yn sicr a gafodd