heibio pregethu. Dygwyddodd fod yn y cyfarfod hwn ŵr o Gymro, yn nghyfundeb Iarlles Huntingdon, yr hwn a ddaethai trwy y wlad i bregethu. Esgynodd hwn i le y llall, ac a ddechreuodd bregethu; a chan ei fod o wedd mwy boneddigaidd, a chanddo wisg fel offeiriad am dano, cafodd lonydd i fyned yn mlaen hyd ddiwedd y cynulliad.
Yn yr enghreifftiau a osodwyd i lawr, y mae digon o brofion wedi eu rhoddi o'r anhawsderau a osodid ar ffordd y diwygiad yn Nghymru i fyned rhagddo, ac na etifeddodd ef ddim tir yn y dywysogaeth ond a ennillodd trwy yr amlygiadau diddadl a roddid o amddiffyniad y Goruchaf arno. Gollyngwyd arno bob traha a chreulondeb, hyd y goddefai cyfreithiau y wladwriaeth, ac yn fynych gosodid y rhai hyny o'r neilldu, i'r dyben i arllwys gelyniaeth y fynwes yn erbyn y sect newydd. Yn mysg y werin, y mae yn amlwg y codai yr erlid yn aml oddiar anwybodaeth, a thybid gan rai, fe allai, mai gwasanaeth i Dduw a wneid ganddynt. Ond y mae yn anhawdd barnu yr un peth am y boneddwyr a'r clerigwyr hyny a fuant mor hynod yn eu dydd am erlid y Methodistiaid. Yr oedd yn mysg y dosbarth yma, pa fodd bynag, rai yn llawer mwy diniweid na'u gilydd. Rhai a ymosodent ar y trueiniaid oddiar gredu y chwedlau a daenid am danynt, ac mai gwir les i'r wlad a fyddai eu diwreiddio o'r tir. Ymgyfodai gwrthwynebiad rhai eraill oddiar sêl dros grefydd awdurdodedig y genedl, ac mai annhrefn na ddylasid ei oddef, ydoedd caniatâu i neb ddynion ddysgu eu gilydd mewn pethau ysbrydol, heb eu gosod i hyny yn ol y drefn arferol yn eglwys Loegr. Nid oes amheuaeth chwaith nad oedd gelyniaeth rhai eraill yn cyfodi oddiar ddygasedd naturiol y galon at wirionedd pur: cysgu yr oeddynt, ac ni fynent eu haflonyddu; yr oedd eu gweithredoedd yn ddrwg, ac ni fynent eu dynoethi. Gwelai eraill, os llwyddo a wnai y crefyddwyr newyddion hyn, y rhoddid terfyn ar bleserau rhai, a lleihad ar elw y lleill, yr hyn a barai iddynt ymgynddeiriogi yn eu herbyn. Yn raddol, pa fodd bynag, fe ddaeth egwyddorion y diwygwyr, a'u gwrthwynebwyr, yn fwy adnabyddus; ac i'r un graddau yr oedd yr erlid yn lliniaru ac yn darfod. Daeth y rhai a erlidient oddiar gamsyniad am egwyddorion y bobl, i ddeall eu hamryfusedd; a daeth y rhai a erlidient oddiar egwyddorion maleisus, hunanol, a sectaidd, i gywilyddio arddel yr egwyddorion hyny, ac felly i gilio o'r maes; nid am eu bod wedi eu cymodi a'r gwirionedd, ond am ei bod yn rhy oleu bellach iddynt orthrymu dynion cyfiawnach na hwy eu hunain.
Yn awr y mae yr erlid wedi darfod. Ni fyn rhai ddim erlid pe gallent, ac ni all y lleill ddim pe mynent. Nid ydym yn amheu, er hyn oll, nad oes rhai a erlidient eto, ie, yn Nghymru, pe goddefid iddynt gan gyfraith y tir. Mae honiad balchaidd rhai o'u bod hwy yn olynwyr priodol i'r apostolion, ac felly yn warcheidwaid rheolaidd crefydd, ac nad oes neb felly ond hwynthwy, yn cynwys ynddo ei hun egwyddorion erlidigaeth; a'r un peth genym, nad gan bwy y gwneir y fath honiad haerllug, —pa un ai gan weinidogion pabyddiaeth, neu gan weinidogion rhith brotestaniaeth, —y mae yr honiad, os