iatawyd hefyd i'r offeiriaid briodi. Ond er fod yr holl gyfnewidiadau hyn yn dda, ac yn tueddu i lesâu, eto fe wel y darllenydd mai trwy rym cyfraith y dygid y cwbl i ben. Gosodid rhaid ar y rhai y perthynai hyny iddynt, i'w rhoddi mewn gweithrediad. I hyny yr oedd gwrthwynebiad mawr yn meddyliau y clerigwyr gan mwyaf, a chododd terfysgoedd a thywallt gwaed mewn llawer man, mewn canlyniad. Eto, er hyn oll, yr oedd goleuni gwybodaeth yn raddol yn ymledaenu, a gwrthuni yr hen grefydd yn dyfod yn raddol yn fwy-fwy amlwg. Galwyd rhai gwŷr da oddiar y cyfandir i fod yn athrawon yn y prif-athrofeydd. Gofelid ar roddi dynion mwy eu cymhwysderau, hyd y gellid eu cael, yn y llanau, yn y fan y deuent yn weigion. Anfonid pregethwyr grymus i wahanol barthau o'r wlad, lle y tybid fod yr anwybodaeth yn fwyaf ei rym, ac amddifadrwydd o athrawon cymhwys yn fwyaf gresynol. O nifer y pregethwyr hyn yr oedd yr enwog John Knox, diwygiwr mawr Scotland, yn un. Trwy y moddion hyn, a'r cyffelyb, y cerddai y diwygiad rhagddo, ac y collai Pabyddiaeth ei rym yn meddyliau dynion. Yr oedd Cymru, yn ddiau, yn cydgyfranogi â rhanau eraill o'r deyrnas yn muddioldeb yr ysgogiadau hyn; eto, nid i'r un graddau, oblegid gwahaniaeth iaith. I'r graddau ag yr oedd grym cyfraith yn abl diddymu defodau ffol, ac arferion ofergoelus, yr oedd yr holl wlad yn cydgyfranogi; ond yn y pethau a ddibynent ar addysg a gwybodaeth, ni a allwn feddwl fod y dywysogaeth yn rhwym o fod yn ol llaw i Loegr, gan nad oedd nemawr o lyfrau nac athrawon Cymreig y pryd hyny i'w cael. Ysgubwyd ymaith lawer o arferion a defodau ffol a llygredig a berthynai i'r grefydd babaidd; ond fe adawyd y wlad, i fesur mawr, heb grefydd yn y byd. Nid oedd eu hathrawon, o ran crefydd ysbrydol, ond delwau difywyd, na'u haddysg nemawr well na chanwyll y gors.
Cyfarfu y diwygiad â gwrthdafliad rhyfeddol trwy farwolaeth Edward VI, a thrwy ddyfodiad ei hanner chwaer, Mari, i'r orsedd. Yr oedd tueddiad hon yn gryf at Babyddiaeth. Ymgasglodd o'i hamgylch yn fuan nifer o wŷr o'r un gogwyddiad a hithau; a than rith gwahanol esgusion, diswyddwyd rhai, carcharwyd rhai, a dienyddiwyd eraill o'r diwygwyr. Yn ei dyddiau hi, cafodd yr esgobion, pabaidd eu barn, a chreulawn eu naws, Gardiner a Boner, eu hadferu: daeth cenad oddiwrth y pab i'r wlad yn ddirgelaidd, a chafodd ymddyddan â'r frenines. Anfonwyd cenadwri i Rufain, y cai Lloegr mor fuan ag oedd modd, ddychwelyd i fynwes ei hen fam o Rufain. Nid peth anhawdd oedd troi o Brotestaniaeth at Babyddiaeth, oblegid nid oedd gan gydwybod nemawr i'w ddweyd yn y mater. Elw, plaid, a dygiad i fyny, oedd yr elfenau ag oedd yn gweithio rymusaf gyda'r lluaws; am hyny, newidient eu crefydd mor aml ag y newidiai yr amgylchiadau. Ond nid mor hawdd oedd troi yn ol i'r pab y meddiannau a'r cyllidau a berthynai unwaith iddo; a chan yr anhawsder a welid ar y ffordd, rhoddwyd yr amcan hyny heibio. Yn awr diddymwyd y deddfau diwygiadol a wnaed dan deyrnasiad Edward, a Phabyddiaeth a adferwyd yn ei holl noethder. Nid rhyfedd yw hyn. Cyfraith a barodd y diwygiad, ac nid newidiad