mewn llawn hyder fod y Duw a'i danfonasai allan i bregethu ar y cyntaf, yn ei alw yn awr at y gorchwyl hwn. "Fe'm cymhellwyd i adeiladu (meddai ef ei hun), gan yr un ysbryd ag a'm danfonodd o amgylch i bregethu, a hyny ar amser nad oedd genyf na chyfeillion nac arian i'm cynorthwyo; canys y cyfeillion a'm gadawsant, ac yn lle arian, yr oeddwn mewn dyled, a chenyf oddeutu deugain o weithwyr i dalu iddynt a'u cynal; -eto ni ddefnyddiais foddion yn y byd i gael cymaint a swllt, ond ymbil yn ostyngedig ar Dduw, a hyderu yn yr addewid, yr hon yr ymddiriedwn arni am bob peth amserol ac ysbrydol." Fe allai fod yr amgylchiadau yr oedd Harris ynddynt yn tueddu mewn gradd i'w ddwyn ef i'r penderfyniad hwn, o gael adeilad o'r fath. Dywedir fod hyn i ryw raddau yn ei fryd er ys blynyddau. O ba le y codasai hyn? A oedd dim yn amgylchiadau y proffeswyr, ac yn amgylchiadau Harris ei hun yn arwain i hyn? Yr oedd Harris yn ymlynu yn gryf wrth yr eglwys wladol, gan ei ystyried ei hun o hyd yn aelod o honi; ac ni fynai mewn un modd, tybygid, gilio oddiwrthi. Eto nid oedd mewn urddau eglwysig; yr oedd pulpudau yr eglwys sefydledig yn gauad rhagddo. Yr oedd ei holl lafur ymron hyd yma mewn tai annedd, ysguboriau, a'r awyr agored. Yr oedd y proffeswyr hefyd y pryd hwnw yn wasgaredig iawn; ychydig o honynt a geid i'r un lle, er fod eu nifer oll trwy y dywysogaeth yn liawer. Dan amgylchiadau fel hyn, nid peth annaturiol a fuasai i Harris lochi y dymuniad o gael rhyw adeilad, lle y gellid casglu nifer o'r crefyddwyr gwasgaredig ac erlidiedig hyn at eu gilydd, lle y gallent gael moddion gras cyson, a lle y diogelid hwy rhag rhuthriadau eu gelynion, a lle y gallai yntau gael mantais i'w hadnabod yn well na thrwy ymweliad damweiniol ar ei daith, a gweinyddu iddynt air y bywyd, heb fod dan anfantais lle, nac o dan orthrwm eu caseion.
Nid oedd ond prin 30 mlynedd er pan fu farw yn Germani gŵr o'r enw Augustus Herman Frank, cyn i Harris ddechreu pregethu; ac nid oes amheuaeth nad oedd Harris wedi cael hanes y gwr hwnw, a hanes y sefydliad a godwyd ganddo yn nhref Halle yn Germani. Diwygiwr oedd y gŵr hwn hefyd yn ei wlad, enwog am ei ddysg, ei dalent, a'i dduwioldeb. Yr oedd hefyd wedi profi peth o chwerwder erlidigaeth. O'r diwedd, ymsefydlodd yn nghŵr tref Halle. Cafodd fod y preswylwyr yn dra anwybodus a didduw; tosturiodd wrth eu sefyllfa, a chymerodd nifer o blant diymgeledd i'w dysgu a'u hymgeleddu. Lluosogodd y nifer yn fuan, a chynorthwywyd yntau i'w cynal, gan ddynion elusengar yn ninas Halle. O'r diwedd, adeiladodd dý mawr, yr hwn sydd eto ar gael, yn ddwy res hir, 800 troedfedd o hyd. Cafodd arian at y gwaith hwn mewn dull rhyfeddol a rhagluniaethol; pan y byddai y gŵr da ymron a dyrysu gan gyfyngder, codai Duw ymwared iddo o ryw gwr neu gilydd, yn annysgwyliadwy a rhyfeddol. Y mae yn perthyn i'r sefydliad hwn yn awr, Nawddle i blant amddifaid; ysgolion Lladin a German; argraffwasg Beiblaidd, a llyfrgell. Fe ddichon, meddaf, fod Harris yn gydnabyddus â hanes y sefydliad daionus hwn, gan nad oedd llawer o flynyddoedd er pan godwyd y sefydliad; ac fe ddichon fod Harris