Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/411

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darllenwyd gwasanaeth eglwys Loegr gan Daniel Rowlands a Howel Davies, yna pregethodd Mr. Fletcher yn ardderchog yn y cyntedd, gan fod y gynulleidfa yn llawer gormod i'r capel. Wedi iddo ef ddarfod, pregethodd William Williams yn Gymraeg hyd ddau o'r gloch. Ddau o'r gloch, ciniawent oll gyda'r Iarlles Huntingdon, a dosbarthwyd bara a chig yn fasgeidiau yn mysg y bobl yn y cyntedd, y rhai a ddaethent, lawer o honynt, o bellder mawr. Dechreuodd y gwasanaeth cyhoeddus drachefn am 3 o'r gloch, pryd y pregethodd Mr. Wesley, ac ar ei ol Mr. Fletcher, a dybenwyd tua 5 o'r gloch. Dechreuodd y cariad-wledd rhwng saith ac wyth o'r gloch: yn ystod y wledd hon, rhoes Shirley, Davies, a Rowlands, gyfarchiadau byrion, a gweddiodd Peter Williams a Howel Harris. Yr oedd yma wyth o offeiriaid yn bresenol.

Tranoeth, sef dydd Gwener, aeth Mr. Wesley i Fristol, a Rowlands a Davies a ymadawsant a Threfeca; ond yn y prydnawn, pregethodd Mr. Shirley drachefn yn y cyntedd, oddiwrth Heb. vii. 25, "Efe a ddichon yn gwbl iachâu;" "ac ar ol hyn (meddai Iarlles Huntingdon), ni a gawsom bregeth bob dydd am 4 o'r gloch, tra yr arosai Meistri Shirley a Fletcher gyda ni. Cawsom gawodydd helaeth o fendithion ysbrydol ar bob llaw. Diau da yw Duw i Israel."

Y cyfryw ydoedd cylchwyl gyntaf coleg Trefeca. Gwelwn yma y fath ymgysegriad llwyr i waith yr Arglwydd a feddiannai y dynion hyn!-y fath undeb a brawdgarwch oedd rhyngddynt!-ac yn neillduol, y mae yn amgylchiad i graffu arno, y modd y cydweithredai y Methodistiaid Cymreig â'u hen frawd a'u cydlafurwr Howel Harris. Ymddengys fod yr hen ymrafael wedi diflanu, o leiaf yn nwydau pob ochr. Yr oedd Harris, erbyn hyn, yn dechreu heneiddio, a chanddo lawer o ofal a llawer o lafur yn disgyn arno yn feunyddiol, fel na allai, pe mynasai, ymroddi eilwaith i deithio Cymru fel cynt, a chydweithredu â'i hen frodyr fel blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Edrychid yn barchus arno ef yn ddiau, fel dyn duwiol a defnyddiol, pa mor gamsyniol bynag o ran y sefydliad yn Nhrefeca. Gallwn feddwl nad oedd ei hen frodyr ddim eto mewn cymod â hwn, wrth a ddywed Williams yn ei farwnad,

"Pa'm y treuliaist dy holl ddyddiau,
I wneyd rhyw fynachlog fawr,
Pan y tynodd Harri frenin
Fwy na mil o'r rhai'n i lawr?
Diau buasit hwy dy ddyddiau,
A melusach fuasai 'nghân,
Pe treuliasit dy holl amser
Yn nghwmpeini'r defaid mân.

"Ond mae pawb yn maddeu heddyw,
Mae rhyw arfaeth faith uwchben
Ag sy'n trefnu pob materion
A ddych'mygo dyn îs nen:
Ac mae bywyd, ac mae angau,
A'r gorchwylion lleia'u rhyw,
Cyn cenedlu dyn na'i 'nabod,
Yn nirgelaidd gwnsel Duw."