Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gan nad oedd pregethu ond yn anaml iawn y pryd hyny yn y llanau, a chan nad oedd un Beibl Cymraeg i'w gael ymron trwy yr holl wlad, ond a oedd yn llanau y plwyf, ni allesid dysgwyl fod y wlad drwyddi ond un niwlen gaddugol o anwybodaeth ac ofergoeledd. Wedi i Wroth ganfod gradd o'i gyflwr gresynol ei hun, eiddigeddai dros ei blwyfolion tywyll, a dechreuodd ar y gwaith, anghyffredin y pryd hyny, o bregethu: a mawr y son a aeth ar led am dano. Ymgasglai lluoedd lawer o bell ac agos i wrando arno. Gorfyddid arno yn fynych, gan niferi ei wrandawyr, bregethu iddynt yn y fynwent, am nad oedd digon o le iddynt yn y llan. Cyrchent i wrando arno o siroedd Brycheiniog, Morganwg, a Chaerloyw; ie, meddant, o Fristo a Llundain, gan gymaint y son oedd am dano. Fe fu gweinidogaeth y gŵr hwn yn foddion i beri deffroad mawr a gogoneddus ar achos crefydd yn y parthau hyny o Gymru; a sicrheir fod cannoedd wedi cael eu troi o dywyllwch i'r goleuni; ac yn eu mysg, fod yr hyglod Walter Cradoc yn un.

Yr oedd Llyfr y Chwareuon (Book of Sports) y pryd hyn yn peri blinder mawr i bob un tyner ei gydwybod, ac uniawn ei farn; ac yn achosi annhrefn ac anfuchedd arswydlawn trwy yr holl wlad. Gosodwyd achwynion o flaen y barnwyr oherwydd y peth hwn; a chafwyd ganddynt wrth-orchymyn yn erbyn y chwareuon. Ar hyn, cyffrôdd esgob Laud yn aruthr, gan achwyn wrth y brenin yn erbyn y barnwyr; a bu gorfod arnynt dynu eu gorchymyn canmoladwy yn ol. Wedi dyrchafu Dr. Laud i archesgobaeth Caergaint, anfonwyd deisyfiad at y brenin (Charles I) gan lawer o foneddigion y wlad, ar iddo, er mwyn anrhydedd crefydd, a moesau y genedl, roddi terfyn ar y chwareuon a orchymynasid gan ei dad (Iago I). Charles, yn lle gwrando ar y deisyfiad rhesymol hwn, a wrandawodd yn hytrach ar yr archesgob, ac ar yr offeiriaid penrhydd, ac a gadarnhaodd yr hen ddeddf, ac a chwanegodd ddeddf newydd, na byddai i neb o'r swyddogion gwladol rwystro y bobl yn eu difyrwch ar y Sabboth, nac aflonyddu arnynt, ac y byddai raid i'r offeiriaid gyhoeddi hyn yn eu heglwysi. Am nacâu darllen y llyfr anfad hwn yn y llan ar y Sabboth, gwysiwyd Mr. Wroth, yn mysg eraill, i ymddangos ger bron y llys (High Commission Court). Nid yw yn ymddangos pa ddedfryd a gyhoeddwyd arno gan y llys; ond dywedir fod esgob Llandaf yn ymhwedd ag ef am anufyddhau o hono i'r awdurdodau, ac am ei ddull annghyffredin o bregethu; ac iddo yntau dori allan i wylo o flaen yr esgob, a dweyd mewn dagrau, "Y mae eneidiau anfarwol yn myned i golledigaeth yn eu pechodau; ac oni ddylwn, trwy bob moddion mwyaf tebygol o lwyddɔ, ymdrechu i'w hachub?" Ar hyn, wylo a wnaeth yr esgob hefyd. Ond y diwedd fu, i Mr. Wroth gael ei droi allan o'r ficeriaeth. Ar ol hyn, fe gyd-gasglodd gynulleidfa yn y fl. 1639; a hon, meddir, oedd y gynulleidfa gyntaf o ymneillduwyr yn Nghymru.

Nid hir y bu Mr. Wroth fyw ar ol hyn, oblegid fe ddywedir iddo ef farw yn y fl. 1640. Ond er ei symud ef o'r winllan, ac ymadael o hono o dir y rhai byw; eto, ni ddiflanodd ffrwyth ei lafur. Heblaw y niferi o eneidiau a ddychwelwyd at Dduw trwy ei weinidogaeth, y rhai nid oes genym hanes yn