y caffai pregethwyr cymeradwy o fysg y Methodistiaid eu hordeinio gan esgob, a thrwy hyny eu cymhwyso at hyn o orchwyl. Ond anmhosibl oedd i neb allu sicrhau y naill na'r llall. Pa beth, ynte, a wneid? Pe buasid yn ymfoddloni i osod y neillduad, fel pwnc, o'r naill du, pa fodd y cyfarfyddid â'r amgylchiadau? Ni ellid gwadu yr amgylchiadau. Nis gallai un cyfrifydd wneuthur nifer yr offeiriaid yn y corff yn Ngwynedd ond tri! Gwnaed a wnelo, nid oeddynt ond tri! Nid oedd modd, chwaith, sicrhau y chwanegid eu nifer, yn mhen pump, deg, ugain, neu gan' mlynedd! Ni feiddiai neb fachnio dros un arglwydd esgob yn y deyrnas, yr ordeiniai efe gymaint ag un pregethwr, eisoes ar y maes, er mwyn iddo ddiwallu angenion y cyfundeb. Na, yr oedd digon o brofion i'r gwrthwyneb. Parotach fuasent i dynu yn ol yr urddau a roddasent i'r offeiriaid Methodistaidd, nag i gyfranu urddau i'r pregethwyr, oddieithr ar yr ammod, neu o dan yr ystyriaeth, eu bod yn gadael y Methodistiaid, ac yn ymuno ag eglwys y wlad. Yr oedd anhawsdra mawr iawn i alw yn ol yr urddau a roddasid unwaith. Wedi datgan unwaith yr urdd-ymadroddion uwchben gŵr, anhawdd iawn, tybygid, oedd galw hyny yn ol. Os unwaith yn offeiriad, offeiriad am byth! Ond os na ellid galw yn ol yr urddau a roddasid, yr oedd yn eu gallu i beidio eu rhoddi ond i'r sawl a gaent, yn ol eu hewyllys. Felly nid oedd fawr o obaith cael urddau esgobawl i neb o bregethwyr y Methodistiaid, er mwyn, ac i'r dyben, iddynt allu cyflenwi angenion y cyfundeb.
Bellach, yr oedd sylw y corff wedi ei dynu at y mater o ordeinio, fel pwnc. Ar y dechreu, fel y dywedwyd, nid y pwnc, ond yr amgylchiadau, oedd yn peri anniddigrwydd: nid priodoldeb neu anmhriodoldeb ordeiniad esgobawl, ond angen yr eglwysi am wŷr urddedig i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd; ond wedi galw sylw y wlad at yr achos, ac wedi deall fod gwrthwynebiad cryf gan ryw bersonau i un newidiad gymeryd lle, bu chwilio manylach i'r mater fel pwnc duwinyddol; ac yn yr ymchwiliad hwn, yr oedd dynion meddylgar yn fwy argyhoeddedig, nad oedd dim angenrheidrwydd anhebgorol i gyfansoddi gŵr yn weinidog cymhwys y Testament Newydd, ei fod yn cael ei urddo gan esgob. Ac nad oedd y Methodistiaid chwaith ddim yn rhwym i ymgadw i barhau o fewn y terfynau cyntefig, yn hyn, mwy nag mewn lluaws o bethau eraill. Parodd yr argyhoeddiad hwn, yn nghydag amgylchiadau angenog y corff, fod meddyliau aelodau, pregethwyr, a henuriaid, yn addfedu fwy-fwy i gael hyn o amgylch. Ac nid rhyfedd, os ceid fod rhai yn eu mysg, o naws meddwl lled benderfynol a thanbaid, yn dangos yn yr amgylchiad fwy o awyddfryd nag o ddoethineb, mwy o sel nag o bwyll.
Y mae yn rhaid cyfaddef fod yr amgylchiad yn galw am lawer o arafwch a doethineb. Wrth edrych ar y peth fel pwnc noeth mewn duwinyddiaeth, gallasem feddwl nad oedd nemawr o anhawsdra yn perthyn iddo; ac wrth edrych hefyd ar amgylchiadau amddifaid y cynulleidfaoedd, yn enwedig yn Ngwynedd, temtir ni i ddweyd ei fod yn gywilydd i'r tadau na ddygasid hyn oddiamgylch yn gynt, a chyda mwy o barodrwydd; ac yn enwedig, pan